Tom Carroll (Llun o wefan Tottenham Hotspur)
Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Tom Carroll wedi cyfadde y bydd yn deimlad “rhyfedd” wrth iddo wynebu ei hen glwb Spurs yn Stadiwm Liberty heno.

Mae Spurs yn mynd am dlws yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, tra bod yr Elyrch yn brwydro o hyd i osgoi disgyn i’r Bencampwriaeth.

Symudodd y Sais 24 oed i dde Cymru ym mis Ionawr am £4.5 miliwn, a hynny’n dilyn cyfnod ar fenthyg gyda’r Elyrch yn 2014-15.

“Fe fydd yn teimlo ychydig yn rhyfedd i fi’n chwarae yn eu herbyn nhw gan ’mod i yno’n wyth oed.

“Er i fi gael cyfnodau ar fenthyg, gan gynnwys yma yn Abertawe, yn amlwg dydych chi ddim yn cael chwarae yn erbyn eich clwb eich hun.

“Ond dw i’n edrych ymlaen ati gan fod hon yn gêm mor bwysig.”

Spurs

Fe wnaeth Tom Carroll dorri drwodd i dîm cyntaf Spurs yn 19 oed, ond cafodd hi’n anodd cadw ei le yn gyson.

Daeth dros hanner ei gemau yng Nghynghrair Europa yn 2014-15 cyn symud i Abertawe, ac fe chwaraeodd e mewn ychydig dros hanner gemau Spurs yn y gynghrair y tymor diwethaf.

Ers mis Ionawr, mae e wedi chwarae ym mhob un o’r naw gêm o dan y prif hyfforddwr Paul Clement.

Mae e wedi bod yn allweddol mewn dwy gôl gan Fernando Llorente yn y buddugoliaethau dros Lerpwl a Burnley.

Erbyn hyn, mae Abertawe bwynt yn unig uwchben y tri safle isaf ac maen nhw’n ail ar bymtheg yn y tabl.

“Ar ddechrau mis Ionawr, roedden ni ar y gwaelod,” meddai, “felly r’yn ni wedi dod ymhell o dan y rheolwr newydd. “R’yn ni wedi ennill cryn dipyn o bwyntiau ac ry’n ni’n edrych ymlaen at gwblhau’r gwaith.”