Paul Clement (Llun: golwg360)
Gallai brwydr tîm pêl-droed Abertawe i aros yn yr Uwch Gynghrair bara tan ddiwrnod ola’r tymor, yn ôl eu prif hyfforddwr, Paul Clement.

Daeth ei sylwadau ar ôl iddo wylio’i dîm yn llwyddo i ddal eu gafael ar bwynt yn erbyn Middlesbrough ar ôl gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma.

Mae’r canlyniad – a buddugoliaeth Hull – yn golygu fod yr Elyrch bwynt yn unig uwchben y tri safle isaf erbyn hyn.

Byddan nhw’n wynebu Spurs yn Stadiwm Liberty nos Fercher.

Dywedodd Paul Clement wrth Sky Sports: “Dw i’n credu y bydd hi’n mynd i lawr i gemau ola’r tymor, os nad y gêm olaf un.

“A bydd rhaid i ni baratoi’n dda a rhoi o’n gorau ym mhob un gêm sydd gyda ni.

“Dw i ddim yn gwybod a fydd hwn yn bwynt da, gobeithio wir y bydd e ar ddiwedd y tymor.

“Fe wnaethon ni wthio a gwthio heddiw, ond roedd rhywbeth bach ar goll yn y traean uchaf.”

Rudy Gestede ddaeth agosaf at sicrhau gôl fuddugol, ond fe ergydiodd cyn-ymosodwr Caerdydd y bêl heibio’r postyn.

Ychwanegodd Paul Clement: “Dw i’n gwybod eu bod nhw wedi cael cyfle mawr tua’r diwedd, ond mae’r ystadegau’n dweud na chawson nhw ergyd ar y gôl drwy gydol y gêm.”

Ychwanegodd fod “pwynt yn well na dim” ar hyn o bryd

Cic o’r smotyn?

Fe allai Abertawe fod wedi cael cic o’r smotyn bedair munud cyn diwedd y gêm pan lawiodd Adam Forshaw y bêl oddi ar gic rydd gan Gylfi Sigurdsson.

Ond dywedodd Paul Clement nad oedd e wedi gweld y digwyddiad yn glir.

“Wnes i ddim ei weld e ar y pryd, ond pan darodd hi’r chwaraewr, ymateb fy chwaraewyr oedd ‘reit, gadewch i ni fynd am y gornel’.

“Ond o edrych eto, mae e’n amlwg ei fod e wedi symud ei freichiau allan a dydy hynny ddim yn edrych fel safle naturiol i fi.”