Fe fydd un o’r rhai oedd yn gyfrifol am sicrhau cyfiawnder yn achos 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed a gafodd eu lladd yn anghyfreithlon yng nghae Hillsborough yn 1989 yn annerch cynulleidfa yn Abertawe heno.

Ers 1989, fe fu’r troseddegwr yr Athro Phil Scraton yn cydweithio â theuluoedd y rhai a fu farw ac unigolion a oroesodd un o’r trychinebau mwyaf yn hanes y byd pêl-droed, wrth iddyn nhw geisio’r gwirionedd gan lysoedd y crwner.

Roedd yn ymgynghorydd i’r teuluoedd drwy gydol y broses gyfreithiol a barodd dros chwarter canrif, ac yn bennaeth ar Banel Annibynnol Hillsborough, y panel oedd wedi sicrhau cwestau o’r newydd pan ddaeth tystiolaeth newydd i law yn eu hadroddiad yn 2012.

Yn yr ail gwest fis Ebrill y llynedd, daeth y rheithgor i’r casgliad fod y 96 wedi’u cywasgu i farwolaeth yn anghyfreithlon ar Ebrill 15, 1989.

Mae cyfrol yr Athro Phil Scraton, Hillsborough: The Truth yn cael ei hystyried y cofnod mwyaf cywir o’r hyn ddigwyddodd yn y trychineb.

Darlith

Bydd ei ddarlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe heno’n canolbwyntio ar yr ymgyrch hir i ddarganfod y gwirionedd, casgliadau’r panel, y cwestau newydd, gwaith Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu a’r dadleuon o blaid erlyn yn dilyn y cwestau newydd.

Fe fydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ddarlith, sydd wedi’i threfnu ar y cyd rhwng y gangen Gymreig o Gymdeithas Troseddeg Prydain ac Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe.

Mae’r ddarlith, sy’n cael ei chynnal yn Narlithfa Faraday y Brifysgol ar Gampws Singleton yn dechrau am 6 o’r gloch, ac mae mynediad i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim.