Forest Green 3–0 Wrecsam    
                                                       

Colli fu hanes Wrecsam ddydd Sadwrn wth iddynt ymweld â’r New Lawn i herio Forest Green yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ym munud olaf yr hanner cyntaf gyda gôl flêr Dale Bennett.

Dyblodd Liam Noble y fantais o’r smotyn ddau funud wedi’r egwyl yn dilyn trosedd Martin Riley ar Kaiyne Woolery.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel toc wedi’r awr diolch i gôl cyn flaenwr Caerfyrddin, Christian Doidge.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ddegfed yn y tabl.

.

Forest Green

Tîm: Russell, Traore, Pinnock (Wedgbury 18’), Noble, Bennett, Ellis, Carter, Kelly, Cooper, Doidge (Bugiel 68’), Woolery

Goliau: Bennett 45’, Noble [c.o.s. ] 47’, Doidge 64’

Cardiau Melyn: Carter 39’, Ellis 43’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Rutherford, Barry (Allen 52’), Tilt, Carrington, Penn (Evans 90’), Shenton, McLeod (Massanka 52’), White

Cardiau Melyn: Riley 27’, Jennings 43’, Barry 43’, White 44’

.

Torf: 2,146