Caerdydd 3–1 Ipswich  
                                                                    

Sgoriodd Kenneth Zohore ddwy waith wrth i Gaerdydd daro nôl i guro Ipswich yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar ei hôl hi yn Stadiwm y Ddinas cyn adfer i ennill y gêm gyda goliau Zohore (2) a Joe Bennett.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda pheniad Luke Chambers o groesiad y Cymro, Tom Lawrence.

Roedd Caerdydd yn gyfartal ddeg munud cyn troi diolch i foli Zohore wedi gwaith creu Jazz Richards.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd yr Adar Gleision ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i Zohore gasglu pas Junior Hoilett i gwblhau gwrthymosodiad slic gyda gôl.

Dyblodd Bennett y fantais gyda thrydedd y tîm cartref toc wedi’r awr ac roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn drydydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Richards, Morrison, Bamba, Bennett, Noone (Halford 79’), Gunnarsson, Wittingham, Harris (John 90+3’), Hoilett, Zohore (Pilkington 83’)

Goliau: Zohore 36’, 50’, Bennett 64’

.

Ipswich

Tîm: Bialkowski, Spence, Chambers, Berra, Smith (Pitman 45’), Knudsen, Ward, Skuse, Diagouraga (Rowe 79’), McGoldrick (Seaes 78’), Lawrence

Gôl: Chambers 23’

Cardiau Melyn: Berra 53’, Pitman 68’

.

Torf: 15,182