Gyda naw gêm yn weddill y tymor hwn, mae Wrecsam wedi dechrau paratoi at y tymor nesa’, gyda chefnogwyr y clwb yn buddsoddi eu harian er mwyn i’r rheolwr Dean Keates gael gwario ar chwaraewyr newydd.

Mae cronfa wedi cael ei lansio i gefnogwyr a busnesau i gefnogi’r clwb yn ariannol i ariannu cyllideb y tîm cyntaf am dymor 2017/18.

Y bwriad yw rhoi cyfle i gael dyrchafiad i’r ail adran. Mae clybiau eraill wedi mynd i lawr y trywydd hwn, gyda Grimsby yn codi £110,000 yn 2016.

Ers iddo gael ei apwyntio, mae perfformiad Wrecsam wedi gwella, ac mae gobeithion wedi codi gyda chwaraewyr newydd yn cyrraedd y Cae Ras wrth i’r rheiny a gafodd eu harwyddo gan y cyn-reolwr, Gary Mills, adael. Mae’r cefnogwyr yn byw mewn gobaith bod cyfnod gwell ar y gorwel gyda Keates wrth y llyw.

Mae’r fenter wedi’i  henwi yn ‘Build the Budget’ , ac mae amseriad y lansiad yn allweddol er mwyn i Dean Keates gael nodi ei dargedau cyn gynted â phosib yn ffenestr drosglwyddo’r haf.

“Fel aelod o’r Ymddiriedolaeth fy hun, mae’n syniad gwych,” meddai Dean Keates. “Dw i’n deall y cyfraniad mae’r cefnogwyr yn ei wneud yn barod i’r clwb, felly dydan ni ond disgwyl iddyn nhw roi be’ allan nhw ei fforddio.

“Dw i’n sicrhau bydd bob ceiniog yn cael yn cael ei gwario’n ofalus, gydag un targed – ein bod ni ar y cae yn gwneud ein gorau y tymor nesa’.”

Mae Pete Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, wedi cadarnhau wrth golwg 360 bod y gronfa wedi cyrraedd dros £21,000 yn barod, a bod cangen Cefnogwyr Sir Amwythig wedi addo £8,000 hefyd.

“Rydan wedi bod yn y gynghrair hon yn rhy hir,” meddai. “Mae’r arian hwn am fynd â ni, gobeithio, yn ôl i’r ail adran.”