Wrecsam 0–2 Gateshead 
                                                               

Rhoddwyd cnoc i obeithion Wrecsam o gyrraedd gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr wrth i Gateshead eu curo ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Mae’r Dreigiau bellach naw pwynt y tu ôl i Gateshead sydd yn y pumed safle wedi eu buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yng ngogledd Cymru.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Jordan Burrow yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.

Dyblodd Danny Johnson y fantais yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm gan sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn ddegfed yn y tabl, naw pwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda dim ond naw gêm yn weddill.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Rutherford (White 75’), Jennings, Tilt, Carrington, Massanka, Shenton (Smith 75’), Penn, Barry, McLeod (Harry 81’), Riley

.

Gateshead

Tîm: Montgomery, Bolton, G. Smith, M. Smith (Beere 65’), Hogan, Fyfield (Brundle 79’), York, Mafuta, McLaughlin, Johnson, Burrow

Goliau: Burrow 53’, Johnson 90+4’

.

Torf: 3,986