Paul Clement
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi datgelu ei fod wedi cael sgwrs gyda phennaeth dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar yn dilyn nifer o benderfyniadau “siomedig” yn erbyn ei dîm.

Ddydd Sadwrn diwethaf, penderfynodd y dyfarnwr Anthony Taylor fod un o chwaraewyr yr Elyrch wedi llawio’r bêl yn eu cwrt cosbi eu hunain, gan arwain at gic o’r smotyn. Ond fe ddaeth hi’n amlwg mai ymosodwr Burnley a Chymru, Sam Vokes oedd wedi llawio’r bêl.

Er tegwch i’r ymosodwr, wnaeth e ddim hawlio’r gic o’r smotyn ac roedd chwaraewyr Abertawe i’w gweld yn gandryll er iddyn nhw ennill y gêm yn y pen draw.

Dywedodd Paul Clement: “Beth fyddai’n digwydd pe bai sefyllfa lle’r oedd e wedi’i llawio hi, y dyfarnwr yn pwyntio at y smotyn a phawb yn protestio, Burnley yn dweud ei bod hi’n gic o’r smotyn, ninnau’n dweud nad yw hi’n gic o’r smotyn, mae e’n rhoi’r gic o’r smotyn a Vokes yn dweud: ‘Na, fi oedd [ar fai]’.

“All y dyfarnwr ddweud wedyn, ‘O, dyw hi ddim yn gic o’r smotyn’?”

Sgwrs â Mike Riley

Dywedodd Paul Clement ei fod wedi cael sgwrs â phennaeth y dyfarnwyr, Mike Riley ar ôl  y digwyddiad hwnnw, er ei fod e’n teimlo bod y camgymeriad yn un “gonest”.

“Efallai y byddwn i’n teimlo’n wahanol pe bai’r canlyniad wedi mynd yn ein herbyn ni.

“Mae’n hawdd gwneud y math yma o beth ar ôl i chi ennill y gêm a bod y penderfyniad oedd wedi peri loes ddim wedi peri cymaint o loes ag y gallai fod wedi gwneud.”

Dywedodd Paul Clement ei fod e wedi dweud wrth Anthony Taylor ar ddiwrnod y gêm fod y penderfyniad yn un “anghywir” a’i fod yn “benderfyniad mawr”.

Ond fe ddywedodd wrth Mike Riley wedyn: “Dw i ddim yn credu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth ond gwneud penderfyniad gonest, ac fe wnaeth e gamgymeriad ac ry’n ni i gyd yn gwneud hynny.”

Chelsea

Wrth i’r Elyrch herio Chelsea fis diwethaf, fe ddylai’r Elyrch fod wedi cael cic o’r smotyn ar ôl i Cesar Azpilicueta lawio’r bêl yn y cwrt cosbi, a’r sgôr ar y pryd yn 1-1.

Ond methodd Neil Swarbrick â gweld y drosedd ac fe aeth Chelsea ymlaen i ennill 3-1.

Dywedodd Paul Clement bryd hynny ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad.

Ychwanegodd yr wythnos hon: “Dywedodd y dyfarnwr [nad oedd e wedi rhoi’r gic o’r smotyn] oherwydd yr agosatrwydd, doedd dim byd y gallai [Azpilicueta] ei wneud, er bod ei fraich mewn lle annaturiol.”

Manchester City

Yn ôl Paul Clement, roedd penderfyniad gwael gan y dyfarnwr Mike Dean wedi costio’n ddrud i’r Elyrch yn erbyn Manchester City.

Roedd hi’n gyfartal 1-1 tan yr eiliadau olaf, cyn i’r dyfarnwr benderfynu rhoi cic rydd ddadleuol i Manchester City, gan ddweud bod yr asgellwr Luciano Narsingh wedi tynnu Aleksandr Kolarov i’r llawr yn anghyfreithlon.

Cafodd y gic rydd ei chymryd o’r fan anghywir, a’r bêl yn symud pan gafodd y gic ei chymryd, ac fe sgoriodd Manchester City ar ôl 92 o funudau.

O blith yr holl benderfyniadau, dywedodd Paul Clement mai hwn oedd y mwyaf siomedig ohonyn nhw i gyd.

“Dw i’n credu mai’r un mwyaf siomedig i fi oedd yr un yn erbyn Man City oherwydd fe arweiniodd at gôl yn yr eiliadau olaf ac fe gollon ni bwynt yn y sefyllfa honno.”

Ai technoleg yw’r ateb cywir?

Yn sgîl camgymeriadau’r dyfarnwyr, mae Paul Clement wedi bod yn galw am gyflwyno technoleg a fyddai’n helpu dyfarnwyr i wneud penderfyniadau cywir yn y cwrt cosbi.

“Gyda’r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd, a dydyn ni ddim yn sôn am gostau mawr mewn gwirionedd, mae’r hyn y gallai ei gostio i dîm sy’n brwydro am dlws neu am le yn Ewrop neu i aros yn y gynghrair yn enfawr.”

Er y byddai defnyddio technoleg yn arafu’r gêm, mae Paul Clement o’r farn y byddai’n werth gwneud hynny er mwyn sicrhau tegwch i’r ddau dîm.

“Fe fydd ychydig o oedi, ond dim mwy nag y byddai’n ei gymryd os yw chwaraewyr yn protestio o amgylch y dyfarnwr neu os oes angen rhoi cerdyn.

“Erbyn i’r cyfan dawelu, gallwch chi fod wedi defnyddio’r amser hwnnw i wneud y penderfyniad cywir.”

Er ei fod yn annog yr awdurdodau i gyflwyno technoleg, mae’n gwadu’r awgrym y dylai dyfarnwyr orfod wynebu’r cyfryngau ar ôl gemau i egluro penderfyniadau dadleuol.

“Byddai eu rhoi nhw o flaen y camerâu a’r cyfryngau’n beth llym i’w wneud oherwydd does ganddyn nhw mo’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”

Wrth i Abertawe deithio i Hull yfory, fe fydd Paul Clement yn gobeithio na fydd y dyfarnwr yn dylanwadu ar ganlyniad y gêm yng ngwaelodion yr Uwch Gynghrair.