Laura McAllister
Gallai cynnal rownd derfynol cystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr y Merched yng Nghaerdydd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched i chwarae pêl-droed yng Nghymru, yn ôl cyn-chwaraewraig ac academydd blaenllaw.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r Athro Laura McAllister wedi manteisio ar y cyfle i drafod ei gobeithion ar gyfer y dyfodol wrth i’r brifddinas baratoi i gynnal prif gystadleuaeth bêl-droed Ewropeaidd ar Fehefin 1.

Bydd gêm derfynol y merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddeuddydd cyn gêm y dynion yn y Stadiwm Genedlaethol ar Fehefin 3.

Dywedodd yr Athro Laura McAllister mewn datganiad: “Bydd ffeinal y merched yn hynod gyffrous.

“Dw i’n gwybod fod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Pwyllgor Trefnu obeithion mawr o’i gwneud hi’n un o’r ffeinals Cynghrair y Pencampwyr y Merched UEFA mwyaf erioed.

“Mae hynny’n uchelgais mawr, ond mae’n bosib ei wneud. Un o’n targedau mwyaf yw cysylltu’r digwyddiad hwn go iawn â’r gymuned a phêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru i wireddu hynny.

“Ar yr achlysur mawreddog hwn, ry’n ni’n amlwg am ddangos pêl-droed i’r genhedlaeth nesaf i ferched yn enwedig.”

Tîm merched Cymru

Enillodd yr Athro Laura McAllister 24 o gapiau dros Gymru rhwng 1994 a 1998, ac roedd hi’n aelod o’r un tîm â rheolwr presennol tîm merched Cymru, Jayne Ludlow.

“Mae timau Cymru o bob oedran yn gwneud yn dda iawn o dan reolaeth fy nghyn-gydchwaraewraig Jayne Ludlow.

“Mae angen annog merched mewn ffordd ychydig yn wahanol i fechgyn,” meddai.

“Yn ddiwylliannol, mae bechgyn yn cael eu cyflwyno i’r gamp yn gynt ar iard yr ysgol, gan gicio pêl o gwmpas gyda’u ffrindiau a’r math yna o beth.

“Yn aml, does gan ferched ddim ffrindiau sy’n ymddiddori mewn pêl-droed yn yr un ffordd.

“Bydd gweld gêm glybiau merched yn cael ei chynnal yn eu gwlad yn amlwg yn ysbrydoli merched Cymru a gobeithio y bydd yn gwneud iddyn nhw eisiau cymryd rhan mewn pêl-droed.”