Tîm Merched Cymru Llun: CBDC
Mae Tîm Merched Cymru wedi colli eu gêm olaf yn grŵp C yng Nghwpan Cyprus.

Fe sgoriodd merched Gweriniaeth Iwerddon wedi 22 munud drwy Katie McCabe yn stadiwm Tasos Marko, Paralimni brynhawn Llun yr wythnos hon.

Roedd chwaraewraig Cymru, Sophie Ingle, yn siomedig i ildio gôl mor gynnar yn y gêm.

“Mi gawson ni lot o feddiant ond methu sgorio,” meddai. “Roeddan nhw’n amddiffyn yn ddwfn, oedd yn arwydd o barch i ni, ond roedd hi’n rhwystredig ein bod ni’n methu agor eu hamddiffyn nhw.

“O’n rhan ni, roedd hi’n wych i weld Amina Vine yn dod ar y cae fel eilydd i ennill ei chap cynta’ – dim ond 15 oed ydi hi, ac mi wnaeth hi’n dda am y deng munud olaf.”

Bydd Cymru yn wynebu’r Alban ddydd Mercher (Mawrth 8) i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y pumed a’r chweched safle.