Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi galw am gyflwyno technoleg i helpu dyfarnwyr ddod i benderfyniadau pwysig a all effeithio ar ganlyniad gemau.
Daw ei sylwadau ar ôl i Burnley ennill cic o’r smotyn yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe, ar ôl i’r dyfarnwr Anthony Taylor gredu mai un o chwaraewyr Abertawe oedd wedi llawio’r bêl yn y cwrt cosbi. Ond dangosodd camerâu teledu’n glir mai ymosodwr Burnley, Sam Vokes oedd wedi cyffwrdd â’r bêl.
Doedd Sam Vokes ddim wedi apelio am y gic, ac roedd chwaraewyr yr Elyrch i’w gweld yn grac gyda’r dyfarnwr yn dilyn y penderfyniad.
Roedd Abertawe ar y blaen o 1-0 pan gafodd Burnley y gic o’r smotyn, a hynny’n dilyn gôl gan y Sbaenwr Fernando Llorente, ac roedden nhw wedi bod yn edrych yn gyfforddus.
Ond wrth i’r ymwelwyr daro nôl, fe lwyddon nhw i achosi rhwystredigaeth i’r Elyrch drwy gydol yr hanner cyntaf.
Aeth Burnley ar y blaen drwy gôl Andre Gray, oedd wedi cymryd y gic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf, wrth i hwnnw rwydo am yr ail waith.
Roedd hi’n gyfartal unwaith eto wrth i Martin Olsson ddarganfod y rhwyd i’r Elyrch ar ôl 68 munud, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau i sicrhau’r fuddugoliaeth, wrth i’r Sbaenwr Fernando Llorente rwydo am yr ail waith.
Mae Abertawe bum pwynt uwchben y tri safle isaf erbyn hyn.
‘Penderfyniad gonest’
Er gwaetha’r fuddugoliaeth, y gic o’r smotyn gafodd sylw gan brif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement ar ddiwedd y gêm.
“Fe wnes i siarad â fe [Anthony Taylor] yn ystod hanner amser ac fe ddywedodd ei fod e wedi gwneud yr hyn roedd e’n credu oedd yn benderfyniad gonest.
“Dw i ddim yn credu y byddai’n gwneud fel arall. Roedd yn amlwg yn gamgymeriad.
“Fe wnes i sylweddoli ryw 30 eiliad ar ôl y digwyddiad beth oedd wedi digwydd. Dywedodd rhywun o blith fy staff wrtha i, ar ôl gweld beth oedd wedi digwydd.”
‘Croesawu technoleg’
Dywedodd Paul Clement y byddai “100% yn croesawu” defnyddio technoleg i wneud penderfyniadau o’r fath.
“Dw i ddim yn deall pam ei fod yn cymry cyhyd, mae trafodaethau wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd maith.
“Dw i’n cydymdeimlo â dyfarnwyr. Dw i’n dyfarnu mewn sesiynau ymarfer a weithiau dw i’n dyfalu a weithiau dw i’n ymateb i ymateb y chwaraewyr.”
Ychwanegodd mai’r dyfarnwr yw’r unig berson sydd heb gymorth technolegol.
“Mae gan y cyfryngau dechnoleg, mae gan staff technegol dechnoleg, mae gan gefnogwyr dechnoleg ar eu dyfeisiau symudol.
“Yr unig un sydd heb gymorth yw’r un sydd ei angen fwyaf.”