Y Seintiau Newydd 4–0 Bangor
Cafodd y Seintiau Newydd eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru gyda saith gêm i’w sbario yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Fangor ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.
Mae llwyddiant y Seintiau wedi bod yn anochel ers rhai wythnosau, os nad misoedd, a chafwyd prawf pellach o’u goruchafiaeth wrth i goliau Cieslewicz, Mullan (2) a Saunders sicrhau buddugoliaeth gyfforddus iddynt dros y Dinasyddion.
Roedd angen arbediad da gan Paul Harrison i atal peniad Gary Taylor-Fletcher wedi deuddeg munud, ond wedi hynny dim ond y Seintiau oedd ynddi.
Cafodd peniad gan Wes Fletcher ei glirio oddi ar y llinell gan Henry Jones a gwnaeth Connor Roberts arbediad gwych i arbed ymgais arall gan yr Albanwr.
Bu bron i Fangor ddal eu gafael ar y llechen lân tan hanner amser ond cafodd Jamie Mullan y gorau o Sion Edwards cyn croesi i Adrian Cieslewicz am y gôl agoriadol funud cyn yr egwyl.
Roedd Edwards yn cael gêm i’w anghofio fel cefnwr chwith a chamgymeriad arall ganddo a arweiniodd at gôl i Mullan ar ddechrau’r ail hanner.
Roedd y tri phwynt yn ddiogel yn fuan wedyn diolch i beniad da Steve Saunders o groesiad cywir Ryan Brobbel.
Rhoddodd Mullan Sion Edwards ar ei ben ôl eto cyn rhwydo ei ail ef a phedwerydd y Seintiau hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Gwnaeth Roberts arbediad dwbl i atal Brobbel a Fletcher wedi hynny a tharodd Jon Routledge y postyn yn y munudau olaf ond roedd pedair yn hen ddigon i’r pencampwyr.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Seintiau ugain pwynt yn glir ar frig y tabl a dim ond chwech gêm sydd ar ôl i’r Bala yn yr ail safle. Pencampwriaeth arall i dîm Craig Harrison felly, y chweched yn olynol.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Saunders (Leca 81’), Rawlinson, Pryce, Routledge, Marriott, Mullan, Brobbel (Draper 71’), Cieslewicz (Darlington 71’), Fletcher
Goliau: Cieslewicz 44’, Mullan 51’, Saunders 54’, Mullan 66’
.
Bangor
Tîm: Roberts, Jackson, Uyi (Boss 80’), Miley, Edwards, Allen, Gosset, Jones, Taylor-Fletcher (Azimale 69’), Nardiello (Cavanagh 60’), Rittenberg
Cerdyn Melyn: Edwards 68’
.
Torf: 232