Casnewydd 0–4 Leyton Orient
Mae gobeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran yn dechrau pylu wedi iddynt golli’n drwm yn erbyn Leyton Orient ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Orient yw’r tîm agosaf at yr Alltudion ar waelod y tabl ond mae chwe phwynt bellach yn eu gwahanu wedi i hatric Josh Koroma arwain yr ymwelwyr at fuddugoliaeth gyfforddus.
Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Steven Alzate’r ymwelwyr ar y blaen o groesiad Koroma.
Dyblodd Koroma fantais ei dîm bum munud yn ddiweddarach wedi pas dreiddgar Sam Dalby, cyn i’r ddau gyfuno eto i greu’r drydedd yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.
Sicrhaodd Koroma y fuddugoliaeth wrth gwblhau ei hatric o’r smotyn toc wedi’r awr yn dilyn trosedd Mitch Rose ar Alzate yn y cwrt cosbi.
Mae’r Alltudion yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran ac mae un pwynt ar ddeg bellach yn eu gwahanu hwy a dioglech yr ail safle ar hugain.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Bennett, Demetriou, Jones (Labadie 45’), Butler, Samuel, O’Brien, Nelson (Rigg 45’), Rose, Bird, Jackson (Williams 65’)
Cardiau Melyn: O’Brien 30’, Labadie 60’
.
Leyton Orient
Tîm: Grainger, Judd, Hunt, Parkes, Kennedy, Koroma (Abrahams 68’), Collins, Moncur (Mezague 87’), Semedo, Dalby (Adeboyejo 84’), Alzate
Goliau: Alzante 8’, Koroma 13’, 45+2’, [c.o.s.] 62’
Cerdyn Melyn: Koroma 49’
.
Torf: 3,378