Luciano Narsingh - ar yr asgell tros Abertawe heddiw
Fe fydd prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn ceisio dileu atgofion poenus pan fydd Burnley yn cyrraedd Stadiwm Liberty yn yr Uwch Gynghrair y prynhawn yma (3 o’r gloch).

Roedd Paul Clement wrth y llyw yn Derby fis Ionawr y llynedd pan gollodd ei dîm o 4-1 yn erbyn tîm Sean Dyche.

Roedd y canlyniad hwnnw’n un o’r rhesymau dros ei ddiswyddo ychydig dros bythefnos wedyn.

“Dw i’n cofio nad oedden ni wedi dechrau’r gêm yn dda iawn ac fe sgorion nhw wrth i ni roi’r bêl yn ein rhwyd ein hunain.

“Chwaraeon ni’n dda iawn wedyn erbyn hanner amser ac fe sgoriodd Jacob Butterfield gôl wych i unioni’r sgôr.”

Ond aeth pethau o chwith i Derby yn yr ail hanner, ac fe lawiodd Jason Shackell y bêl ar “noson ry’ch chi am ei hanghofio”.

“Ro’n i wedi siomi’n fawr wedyn a do’n i ddim gyda’r clwb yn hir iawn wedi hynny.”

Paul Clement v Sean Dyche

Dyna’r cyfarfyddiad diweddaraf o blith nifer rhwng Paul Clement a Sean Dyche, a aeth ben-ben â’i gilydd ar lefel dan 18 oed – y naill yn Chelsea a’r llall yn Watford.

“Ro’n i’n ei nabod e’n dda,” meddai Paul Clement. “Fe ddes i ar ei draws e sawl gwaith ar wahanol lefelau.

“Dw i hefyd yn ei gofio fe fel chwaraewr, ac roedd e’n amddiffynnwr canol cadarn oedd yn taclo’n galed iawn. Byddai’n cicio unrhyw beth oedd yn symud – gorau i gyd os mai’r bêl oedd hi!”

Dywedodd fod timau Sean Dyche yn “ddidrugaredd” yn amddiffynnol.

“Maen nhw’n gosod eu hunain fesul dau floc o bedwar, maen nhw’n drefnus ac yn hapus i’r tîm arall gael y bêl, a gwrthymosod wedyn neu fanteisio ar chwarae gosod, a dyna sut maen nhw’n cael eu goliau.”

Mantais ar eu tomen eu hunain

Dydy Burnley ddim wedi ennill yr un gêm oddi cartre’r tymor hwn, ond maen nhw’n unfed ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair serch hynny.

A dydy perfformiadau Burnley i ffwrdd o Turf Moor ddim yn rheswm i Abertawe ddisgwyl ennill y prynhawn yma, yn ôl Paul Clement.

“Os rhywbeth, mae’n gwneud i chi boeni mwy y gallen nhw gael y fuddugoliaeth gyntaf honno yma.

“Ry’n ni’n canolbwyntio ar sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”

Treuliodd Burnley un tymor yn yr Uwch Gynghrair yn 2014-15, ond fe wnaethon nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor hwnnw, a chodi unwaith eto’r tymor hwn.

Mae Sean Dyche wedi perfformio’n dda fel rheolwr yn ôl Paul Clement.

“Mae e wedi gwneud jobyn arbennig o dda, da iawn fe, yn enwedig ar ôl iddyn nhw fynd i fyny ac i lawr yn syth wedyn.”

Y timau

Mae disgwyl i’r ymosodwr Jordan Ayew a’r asgellwr Luciano Narsingh ddechrau am y tro cyntaf yng nghrys Abertawe ar ôl plesio’n ddiweddar fel eilyddion.

Mae’r asgellwr Jefferson Montero allan o hyd, ond mae e wedi dychwelyd i’r cae ymarfer erbyn hyn.

O ran yr ymwelwyr, mae’r ymosodwr Ashley Barnes wedi’i wahardd, ac mae Steven Defour a Johann Berg Gudmundsson wedi’u hanafu.

Ond mae Jeff Hendrick yn dychwelyd yn dilyn gwaharddiad, ac fe allai’r Cymro Sam Vokes ddechrau’r gêm.

Ystadegau

Dydy Burnley erioed wedi curo Abertawe yn yr Uwch Gynghrair, a daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn yr Elyrch yn y Drydedd Adran yn 1995.

Dydy Burnley ddim wedi llwyddo i sgorio’r un gôl yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Abertawe.

Dim ond dau bwynt ma Burnley wedi’u cael oddi cartre’r tymor hwn – dim ond 20 o bwyntiau sydd ganddyn nhw oddi cartref yn eu 50 gêm diwethaf.

Serch hynny, pe bai Burnley yn sicrhau buddugoliaeth annisgwyl, bydden nhw’n sicrhau eu huchafswm mwyaf o bwyntiau (34) mewn un tymor yn yr Uwch Gynghrair.