James Chester (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae amddiffynnwr Cymru, James Chester wedi cael ei ganmol gan ei reolwr yn Aston Villa, Steve Bruce ar ôl sgorio’r gôl fuddugol wrth iddyn nhw guro Derby o 1-0 brynhawn ddoe.
Dyma fuddugoliaeth gynta’r clwb yn y Bencampwriaeth yn 2017.
Fe allai Derby fod wedi cael cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf ar ôl i Nathan Baker lorio Darren Bent.
Ond fe arhosodd Aston Villa yn amyneddgar, ac fe ddaeth y gôl dyngedfennol ar ôl 25 munud o’r hanner cyntaf.
Daeth y gôl oddi ar ei ben yn dilyn cic gornel gan Henri Lansbury.
Roedd cerdyn coch i Leandro Bacuna yn gwmwl tros y fuddugoliaeth, ond roedd Steve Bruce yn fodlon ar bwynt, a “gôl brin” gan un y mae e wedi ei reoli yn y gorffennol yn Hull.
“Roedd e’n wych – roedd hynny’n debycach i James Chester.
“Dw i wedi cael y fraint o’i reoli fe o’r blaen.
“Mae e wedi cael amser caled dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd e’n wych heddiw ac fe berfformiodd e fel capten.
“Sgoriodd e gôl hefyd – mae hynny’n beth prin ynddo’i hun!”