St Mirren 4–1 Y Seintiau Newydd          
                                     

Mae’r Seintiau Newydd allan o’r Cwpan IRN-BRU ar ôl colli yn erbyn St Mirren yn y rownd gynderfynol brynhawn Sul.

Roedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru gôl ar y blaen ar yr egwyl yn Stadiwm Paisley 2021, ond yn ôl y daeth yr Albanwyr gan ennill y gêm gyda phedair gôl yn erbyn deg dyn y Seintiau.

Hanner Cyntaf

Ymwelwyr o Gymru a gafodd y gorau o’r gêm yn yr hanner awr cyntaf ond roedd cyfleoedd yn brin yn y ddau ben.

Cafwyd mwy o gyffro yn y cyrtiau cosbi yn chwarter awr olaf yr hanner. Gwnaeth y Cymro yn y gôl i St Mirren, Billy O’Brien, arbediad da i atal Ryan Brobbel a chafodd John Sutton hanner cyfle yn y pen arall ond anelodd yn syth at Paul Harrison.

Efallai i O’Brien arbed ergyd gyntaf Brobbel, ond doedd o ddim yn agos at yr ail wrth i chwaraewr y Seintiau roi ei dîm ar y blaen mewn steil bum munud cyn yr egwyl gydag ergyd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Ail Hanner

Roedd St Mirren yn well ar ôl troi ac roedd amddiffyn dwfn y Seintiau Newydd yn gwahodd pwysau.

Roedd angen tipyn o gôl i unioni’r sgôr ar yr awr serch hynny wrth i Stephen McGinn anelu bwled i’r gornel uchaf o ddeg llath ar hugain.

Bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae’r hanner awr olaf gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i Steve Sauners am dacl fudr mewn safle peryglus ar ochr y cwrt cosbi.

Aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i Stevie Mallan anelu’r gic rydd i’r gornel isaf i roi’r Albanwyr ar y blaen.

Roedd tîm Craig Harrison ar chwâl braidd wedi hynny ac fe ddylai Sutton fod wedi rhwydo trydedd St Mirren ond cafodd ei gic o’r smotyn ei harbed gan Paul Harrison.

Gwnaeth y blaenwr yn iawn am ei gam o fewn llai na munud serch hynny wrth sgorio yn dilyn gwaith da Kyle Magennis yn y cwrt cosbi.

Roedd digon o amser ar ôl i Rory Loy fanteisio ar amddiffyn cysglyd i ychwanegu pedwaredd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Fydd dim pedwar tlws i’r Seintiau’r tymor hwn wedi’r cwbl felly ond mae’r trebl yn bosibilrwydd o hyd. Y cam nesaf fydd herio Bangor yn wyth olaf Cwpan Cymru yr wythnos nesaf.

.

St Mirren

Tîm: O’Brien, Demetriou, Davis, Baird, Eckersley (Irvine 90’), Storie (Morgan 45’), McGinn (Fjelde 87’), Magennis, Mallan, Loy, Sutton

Goliau: McGinn 60’, Mallan 65’, Sutton 80’, Loy 90+1’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Saunders, Rawlinson, Marriott, Edwards, Baker, Mullan, Brobbel (Seargeant 68’), Cieslewicz (Quigley 68’), Fletcher (Draper 81’)

Gôl: Brobbel 41’

Cerdyn Melyn: Mullan 46’

Cerdyn Coch: Saunders 64’

.

Torf: 2,044