Aeron Edwards, chwaraewr canol cae y Seintiau
Mae’n benwythnos allweddol yn Uwch Gynghrair Cymru, gan mai dim ond pwynt sydd ei angen ar y Seintiau Newydd i ennill y gynghrair.

Fe fyddan nhw’n herio Caerfyrddin ar Barc Waen Dew ddydd Sadwrn.

Ond pe bai Gap Cei Conna yn methu â churo Bangor nos Wener, dim ond pwynt fydd angen ar y Seintiau i’w gwneud hi’n amhosib i neb eu bwrw nhw oddi ar frig y tabl, ac wyth gêm yn weddill.

Mae chwaraewr canol cae’r Seintiau, Aeron Edwards, yn derbyn na fydd y gêm yn erbyn yr ‘Old Gold’ yn un hawdd.

“Mae Caerfyrddin yn dîm da, maen nhw’n ffit ac mae’r rheolwr yn brofiadol ac yn deall y gêm, maen nhw wastad a chynllun i’n curo ni,” meddai Aeron Edwards wrth golwg360.

“Dydan ni ddim wedi sôn am y posibilrwydd o fod yn bencampwyr ddydd Sadwrn,” meddai wedyn. “Mi fydd Cei Conna yn brifo ar ôl colli i Gaerfyrddin….

“Ond mi allai fod yn dymor heb i ni golli gêm, ac mi fasa’n wych ennill y gynghrair yn fuan yn y tymor, oherwydd mae gynnon ni gemau cwpan mawr ar y gorwel yn erbyn St Mirren a Bangor.

“Eto, dydan ni ddim wedi meddwl mor bell â hynny – canolbwyntio ar y gêm nesa’ ydi’r nod.”

Yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddau glwb ar Barc Waen Dew, fe enillodd y Seintiau 4-2, a dim ond colli 2-1 wnaethon nhw yng Nghroesoswallt.