Wrecsam 3–1 Guiseley             
                                                       

Tarodd Wrecsam yn ôl i guro Guiseley yn y Gynghrair Genaedlaethol brynhawn Sadwrn.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar ar y Cae Ras cyn i’r Dreigiau daro nôl gyda goliau Massanka a Rooney (2).

Aeth Guiseley ar y blaen wedi dim ond deg munud diolch i beniad cyn chwaraewr Cyffordd Llandudno a Chymru dan 21, Jake Cassidy.

Roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i gôl din dros ben wych Ntumba Massanka.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond aeth y Dreigiau ar y blaen toc cyn yr awr gyda gôl i John Rooney gwta funud wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd.

Ychwanegodd Ronney ei ail ef a thrydedd ei dîm yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm i roi ychydig o awyr iach rhwng y timau.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry i’r degfed safle yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr, saith pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Rutherford (Rooney 60’), Barry (Evans 78’), Tilt, Carrington, Shenton, Massanka, McLeod (White 85’)

Goliau: Massanka 31’, Rooney 62’ 90+3’

.

Guiseley

Tîm: Williams, Brown, Lowe, Walton, Hurst (Preston 69’), Lawlor, Hatfield, Cassidy (Boyes 80’), Asamoah (Logan 80’), Rankine

Gôl: Cassidy 11’

.

Torf: 3,730