Y diweddar Graham Taylor yn ystod ei gyfnod yn rheolwr tim cenedlaethol Lloegr
Mae miloedd o bobol wedi ymgasglu ar strydoedd Watford ar gyfer angladd y cyn-reolwr pêl-droed Graham Taylor.

Bu farw cyn-reolwr Lloegr, Wolves, Lincoln, Watford ac Aston Villa o drawiad ar y galon yn 72 oed ar Ionawr 12.

Ymhlith y rhai sydd yn yr angladd mae cyn-reolwr Abertawe Kenny Jackett a chyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay.

Wrth i’r dorf aros i’r osgordd angladdol gyrraedd, fe fu rhai o hoff ganeuon Graham Taylor yn cael eu chwarae, gan gynnwys ‘We’ll Meet Again’ gan Vera Lynn a rhai o ganeuon Buddy Holly, ei hoff ganwr.

Yn dilyn y gwasanaeth, fe fydd gwasanaeth preifat i’r teulu.

Yn ystod ei yrfa, fe lwyddodd i sicrhau dyrchafiadau i Watford o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf, ac fe arweiniodd Aston Villa i’r ail safle yn yr Adran Gyntaf yn 1990. Treuliodd gyfnod yn rheolwr tîm Lloegr cyn ymddiswyddo ar ôl methu â chyrraedd Cwpan y Byd yn 1994.

Dychwelodd i Watford rhwng 1996 a 2001 cyn cael ail gyfnod gydag Aston Villa yn 2002-03. Ar ôl ymddeol o’r byd pêl-droed yn 2003, fe ddaeth yn ddadansoddwr gyda’r BBC.