Abertawe 2–1 Southampton      
                                                   

Mae rhediad da diweddar Abertawe’n parhau wedi iddynt drechu Southampton ar y Liberty nos Fawrth.

Sicrhaodd gôl ail hanner Gylfi Sigurdsson y tri phwynt holl bwysig wrth i’r Elyrch aros allan o dri isaf yr Uwch Gynghrair.

Saith munud o’r hanner cyntaf oedd ar ôl pan beniodd Alfie Mawson y tîm cartref ar y blaen o gic gornel Sigurdsson ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Roedd Southampton yn gyfartal toc cyn yr awr wedi i Shane Long gwblhau symudiad slic gan ei dîm.

Pwysodd yr ymwelwyr am ail wedi hynny ond yr Elyrch aeth â hi gyda gôl dda, Luciano Narsingh a Sigurdsson yn gwrthymosod yn chwim a’r gŵr o Wlad yr Iâ yn rhwydo.

Bu rhaid iddynt amddiffyn wedi hynny ond daliodd Abertawe eu gafael ar y fantais i sicrhau’r tri phwynt sydd yn eu cadw yn yr ail safle ar bymtheg.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson (Rangel 76’), Fer (Ki Sung-yueng 72’), Cork, Carroll, Routledge (Narsingh 60’), Llorente, Sigurdsson

Goliau: Mawson 38’, Sigurdsson 70’

Cardiau Melyn: Cork 44’, Fernandez 82’

.

Southampton

Tîm: Forster, Soares, Stephens, Yoshida, Bertrand, Davis, Romeu, Clasie (MqQueen 76’), Tadic (Boufal 56’), Long, Redmond (Sims 77’)

Gôl: Long 57’

.

Torf: 20,359