Paul Clement (Llun: Alun Rhys Chivers)
Mae gêm Abertawe yn erbyn Southampton heno’n bwysicach na’r gêm fawr yn erbyn Lerpwl yr wythnos diwethaf, yn ôl prif hyfforddwr yr Elyrch, Paul Clement.

Llwyddodd yr Elyrch i sicrhau buddugoliaeth brin o 3-2 yn Anfield ddeng niwrnod yn ôl, ac fe fyddan nhw’n ceisio ennill dwy gêm o’r bron am y tro cyntaf y tymor hwn wrth groesawu Southampton i Stadiwm Liberty.

Tra bod Abertawe allan o’r gwaelodion yn dilyn y canlyniad annisgwyl yn erbyn Lerpwl, mae rhestr lawn o gemau dros y deuddydd nesaf yn golygu y gallai unrhyw ganlyniad ond am fuddugoliaeth eu gweld nhw’n disgyn i’r tri safle isaf unwaith eto.

‘Ffydd’

Ond yn ôl Paul Clement, mae’r fuddugoliaeth dros Lerpwl wedi rhoi hwb i’r garfan.

“Mae’r gêm hon yn bwysicach na’r gêm yn erbyn Lerpwl. Rhaid i ni gadw’r perfformiadau i fynd yn nhermau gêm gartref a cheisio dilyn ymlaen o fuddugoliaeth oddi cartref gyda thriphwynt arall.

“Ond mae [y fuddugoliaeth] wedi codi’r hwyliau. O’r fuddugoliaeth honno fe ddaeth buddugoliaethau ar lefel arall, os liciwch chi.

“Mae llawer o bobol yn y ddinas wedi’i gweld hi ac mae ffydd ac yn bwysicaf oll, mae gan y chwaraewyr ffydd, galla i synhwyro hynny. Maen nhw’n credu y gall rhywbeth arbennig gael ei wneud y tymor hwn.”

‘Adeiladu ar yr hyn ry’n ni wedi’i wneud’

Ar hyn o bryd, dim ond chwe phwynt – neu dwy fuddugoliaeth – sydd rhwng Caerlŷr, sy’n bymthegfed yn yr Uwch Gynghrair, a Sunderland, sydd ar waelod y tabl.

Fe allai buddugoliaeth dros Southampton godi’r Elyrch uwchben Caerlŷr a Middlesbrough. Ond pe baen nhw’n colli, gallai Hull a Sunderland godi uwch eu pennau yr wythnos hon, ac fe allen nhw ganfod eu hunain yn ôl yn y gwaelodion.

Dywedodd Paul Clement: “Roedden ni ar y gwaelod yn ddiweddar. Ond fe all newid yn gyflym iawn ac fe allen ni ganfod ein hunain yn y safle hwnnw unwaith eto. Felly mae’n rhaid i ni adeiladu ar yr hyn ry’n ni wedi’i wneud.

“Ddeng niwrnod yn ôl, roedd tri neu bedwar tîm ynddi [y frwydr i aros yn y gynghrair], ond bellach mae yna bump neu chwech.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn ry’n ni’n ei wneud, ond dw i’n sicr y byddwn ni’n ddiogel os gallwn ni barhau i adeiladu ar yr hyn ddangoson ni yn erbyn Lerpwl.”

Fernando Llorente

Seren y gêm yn Anfield oedd yr ymosodwr o Sbaen, Fernando Llorente a rwydodd dwywaith, gan ddangos pam fod Chelsea wedi dangos diddordeb ynddo.

Mae Paul Clement yn falch ei fod e wedi penderfynu aros yn Stadiwm Liberty, gan wfftio trosglwyddiad a fyddai’n ei godi i’r lefel uchaf yn yr Uwch Gynghrair ac yn rhoi’r cyfle iddo gystadlu ym mhrif gystadlaethau Ewrop unwaith eto.

Ond mae’r prif hyfforddwr yn cyfaddef nad oedd e’n hollol ffyddiog y byddai un o’i chwaraewyr pwysicaf yn aros yn ne Cymru.

“Ar ôl y gêm honno yn erbyn Lerpwl, roedd e’n teimlo’n dda, roedd e’n teimlo’n hapus. Ry’n ni’n hapus gyda fe a phan fo’r ddwy ochr yn hapus, mae’n gwneud synnwyr i bobol aros.

“Gall cwestiynau godi ym meddwl chwaraewyr ond o sgwrsio â fe, mae e wedi bod yn hapus yma, ac mae e wedi bod yn hapus gyda’r ffordd mae’r tîm yn dechrau chwarae.

“Mae e’n bwysig iawn i ni.”

Abertawe v Southampton – newyddion y timau

Mae disgwyl i’r asgellwr Luciano Narsingh gael ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf yn dilyn ei drosglwyddiad o PSV Eindhoven, a hynny ar ôl iddo wella o anaf i’w goes.

Daw Ki Sung-yueng yn ôl i’r garfan hefyd yn dilyn anaf i’w goes, ond mae’r capten Leon Britton a’r ymosodwr ifanc Oli McBurnie wedi’u hanafu o hyd.

Mae rhestr anafiadau Abertawe’n dipyn llai na rhestr gyfatebol Southampton, gyda hyd at 10 o’u prif chwaraewyr allan.

Mae amheuon o hyd am ffitrwydd Jay Rodriguez, Charlie Austin, Sofiane Boufal, James Ward-Prowse, Virgil van Dijk a Jose Fonte.

Wrth ymateb i’r newyddion am Virgil van Dijk, un o chwaraewyr allweddol Southampton, dywedodd Paul Clement: “Dyw e ddim yn hwb i ni fel y cyfryw, ond dyw e ddim yn dda iddyn nhw gan eu bod nhw wedi ei golli fe a Jose Fonte, dau chwaraewr allweddol iawn oedd yn y tîm a nawr, dy’n nhw ddim.

“Pe bai gyda fi chwaraewr fel van Dijk yn fy nhîm a bod rhaid i fi fod hebddo fe, byddwn i’n ei ystyried e’n golled.

“Ond maen nhw’n dîm da, ac mae ganddyn nhw ymosod cryf gyda Rodriguez, Long, Redmond a Tadic ac o un i 11, bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i’w curo nhw.”

Pierre-Emile Højbjerg

Un chwaraewr yng ngharfan Southampton y mae Paul Clement yn ymwybodol ohono fe yw’r chwaraewr canol cae o Ddenmarc, Pierre Emile Højbjerg.

Fe adawodd e glwb Bayern Munich ychydig cyn i’r Sais fynd yno’n is-reolwr gyda Carlo Ancelotti, ond fe ddywedodd wrth Golwg360 fod y chwaraewr yn uchel ei barch yn yr Almaen – cymaint felly fel ei fod e wedi cael ei gymharu ag un o fawrion Sbaen, Sergio Busquets.

“Dw i’n gwybod fod Guardiola [Pep, cyn-reolwr Bayern Munich] yn ei hoffi fe. Do’n i ddim yn ei nabod e ond dw i wedi ei wylio fe ac mae e’n edrych fel pe bai e’n chwaraewr da.

“Fe siaradais i â phobol yn y Saints tra ’mod i yn Bayern ac roedden nhw’n hoffi ei feddylfryd a’i agwedd.”

Gemau’r gorffennol

Dydy Abertawe erioed wedi curo Southampton yn Stadiwm Liberty yn yr Uwch Gynghrair – daeth eu hunig fuddugoliaeth dros y Saeson yn St Mary’s fis Chwefror 2015.

Yn y naw gêm a fu rhyngddyn nhw yn yr Uwch Gynghrair, mae Southampton wedi ennill chwech ohonyn nhw, ac mae dwy gêm wedi gorffen yn gyfartal. Yn y naw gêm, mae’r Elyrch wedi sgorio tair gôl yn unig.

Ddechrau’r tymor hwn, fe enillodd Southampton o 1-0 yn St Mary’s, buddugoliaeth gyntaf Claude Puel fel rheolwr.

Er gwaetha’r ystadegau siomedig yng ngemau’r gorffennol, mae perfformiadau diweddar Abertawe’n awgrymu bod pethau ar fin gwella ychydig.

Maen nhw wedi ennill dwy allan o’u tair gêm ddiwethaf yn yr Uwch Gynghrair, ond maen nhw wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty – byddai pedwaredd yn gosod record newydd iddyn nhw.

Mae’r amddiffyn yn parhau’n broblem i’r Elyrch, ac maen nhw wedi ildio o leiaf dair gôl mewn pump allan o’u chwe gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty – ac maen nhw wedi ildio 29 gôl yn eu 10 gêm gynghrair diwethaf – sy’n fwy nag y mae Southampton wedi’u hildio mewn 24 gêm.

Ond mae’n bosib fod Abertawe’n cwrdd â Southampton ar adeg wael i’r ymwelwyr, er iddyn nhw guro’r pencampwyr Caerlŷr o 3-0 ddydd Sul diwethaf i roi terfyn ar rediad o bedair colled o’r bron.

Dim ond unwaith mewn wyth gêm mae Southampton wedi llwyddo i ennill, gan golli pedair ohonyn nhw, a dydyn nhw ddim wedi sgorio mewn pedair o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref.

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers