Brighton 1–0 Caerdydd
Gôl i ddim oedd hi wrth i Gaerdydd golli yn y Bencampwriaeth nos Fawrth yn erbyn Brighton yn Stadiwm Amex.
Sgoriodd Tomer Hemed y gôl fuddugol ddeunaw munud o’r diwedd i ddod â rhediad da diweddar yr Adar Gleision i ben.
Kenneth Zohore a gafodd gyfle gorau’r ymwelwyr mewn hanner cyntaf di sgôr ond anelodd ei ergyd yn syth at David Stockdale yn y gôl.
Roedd Brighton yn well wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl holl bwysig i Hemed yn y diwedd wedi gwaith creu Oliver Norwwod.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Brighton yn ôl i frig y Bencampwriaeth ond mae Caerdydd yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg wedi i’w rhediad o dair buddugoliaeth yn olynol ddod i ben.
.
Brighton
Tîm: Stockdale, Goldson, Duffy, Dunk, Pocognoli, Stephens, Kayal (Norwood 71’), Knockaert (Skalak 90’), March (Sidwell 82’), Murphy, Hemed
Gôl: Hemes 73’
Cerdyn Melyn: Knockaert 90’
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Peltier, Morrison, Bamba, Richards, Halford (Healey 79’), Jarris, Gunnarsson, Ralls (Wittingham 89’), Hoilett (Noone 89’), Zohore
Cerdyn Melyn: Hoilett 21’
.
Torf: 26,668