Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o sarhau ymosodwr tîm pêl-droed Wrecsam, Ntumba Massanka yn hiliol yn ystod y gêm yn erbyn Caer brynhawn ddoe.

Yn ôl adroddiadau, roedd y chwaraewr wedi cwyno am y sylw yn ystod y gêm ac fe fu’n rhaid i’r dyn adael Stadiwm Lookers Vauxhall yng Nghaer.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Dydy Clwb Pêl-droed Caer ddim wedi gwneud sylw.