Caerdydd 1–0 Burton
Sgoriodd Rhys Healey yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i Gaerdydd guro Burton yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Hon oedd trydydd buddugoliaeth yr Adar Gleision yn olynol yn y Bencampwriaeth wrth i dîm Neil Warnock ddechrau dringo’n araf i fyny’r tabl.
Prin a oedd y cyfleoedd mewn hanner cyntaf di fflach ond roedd angen arbediad da gan Jon McLaughlin i atal Kenneth Zohore rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen.
Gwnaeth Allan McGregor arbediad da o gynnig Lucas Akins i gadw llechen Caerdydd yn lân yn yr ail hanner a chafodd y tîm cartref eu gwobr yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm.
Tarodd cic rydd Ricky Lambert yn erbyn y mur amddiffynnol ond methodd Burton â chlirio’r bêl ac enillodd peniad Healey’r gêm i Gaerdydd, gôl i gyn chwaraewr Cei Connah yn ei gêm gyntaf i’r Adar Gleision ers dychwelyd o gyfnod ar fenthyg yng Nghasnewydd.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth, wyth pwynt yn glir o’r tri isaf.
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Connolly, Morrison, Bamba, Peltier, Harris, Gunnarsson, Ralls, Hoilett (Healey 90+1’), Pilkington (Kennedy 54’), Zohore (Lambert 67’)
Gôl: Healey 90+1’
.
Burton
Tîm: McLaughlin, Brayford, McFadzean, Turner, Flanagan, Akins, Palmer (Myers-Harness 74’), Naylor (O’Grady 90’), Murphy, Dyer, Sordell