Lerpwl 2–3 Abertawe           
                                                            

Cododd Abertawe allan o dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Lerpwl oddi cartef yn Anfield amser cinio ddydd Sadwrn.

Rhoddodd goliau Fernando Llorente ddwy gôl o fantais i’r Elyrch cyn i ddwy gan Roberto Firmino ei gwneud hi’n gyfartal. Ond yn ôl y daeth Abertawe gyda gôl Gylfi Sigurdsson yn ei hennill hi i’r ymwelwyr chwarter awr o’r diwedd.

Llwyr reolodd Lerpwl y tir a’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond roedd cyfleoedd clir yn brin yn y ddau ben wrth i’r Elyrch amddiffyn yn drefnus.

Adam Lallana a gafodd gyfle gorau’r Cochion gyda chynnig acrobataidd, a Tom Carroll a ddaeth agosaf i Abertawe pan wyrodd ei ergyd yn erbyn y postyn.

Cafwyd mwy o gyffro yn y deg munud cyntaf wedi’r egwyl na’r hanner cyntaf cyfan.

Rhoddodd Fernando Llorente yr ymwelwyr o dde Cymru ar y blaen wedi dim ond tri munud wedi i Lerpwl fethu â chlirio’r bêl o gic gornel.

Dyblodd y Sbaenwr fantais yr Elyrch bedwar munud yn ddiweddarach gyda pheniad gwych o groesiad arbennig Tom Carroll.

Roedd Lerpwl nôl yn y gêm o fewn dim diolch i beniad cadarn Roberto Firmino o groesiad James Milner ac roedd 35 munud o’r gêm ar ôl o hyd.

Roedd y sgôr yn gyfartal hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i ail gôl y gŵr o Frasil. Cafwyd gwaith da gan Georginio Wijnaldum ar y chwith a chymerodd Roberto Firmino un cyffyrddiad i reoli â’i fron ac un i daro hanner foli felys i gefn y rhwyd.

Y tîm cartref a oedd y ffefrynnau i ennill y gêm wedi hynny ond Abertawe a gafodd y gôl nesaf wrth i’r bêl adlamu’n garedig i Gylfi Sigurdsson wedi gwaith da Tom Carroll ar ochr y cwrt cosbi.

Gwnaeth Lukasz Fabianski arbediad da i atal Divock Origi wedi hynny a bu rhaid i’r ymwelwyr amddiffyn eu tri phwynt wrth i Lerpwl daflu popeth atyn nhw yn y munudau olaf.

Mae’r fuddugoliaeth – y gyntaf erioed i’r Elyrch yn y gynghrair yn Anfield – yn codi’r Cymry dros Palace, Hull a Sunderland, ac allan o’r tri isaf i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Lerpwl

Tîm: Mignolet, Clyne, Lovren, Klavan, Milner, Wijnaldum (Matip 90+4’), Henderson, Can (Origi 71’), Firmino, Coutinho (Sturridge 57’), Lallana

Goliau: Firmino 55’, 69’

Cerdyn Melyn: Klavan 36’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson (Rangel 79’), Fer (Fulton 90+4’), Carroll, cork, Routledge, Llorente (Baston 85’), Sigurdsson

Goliau: Llorente 48’, 52’, Sigurdsson 74’

Cerdyn Melyn: Fer 90’

.

Torf: 53,169