Prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement (Llun: Golwg360)
Fe fydd ffitrwydd yn allweddol brynhawn dydd Sadwrn wrth i dîm pêl-droed Abertawe geisio cyflawni’r annhebygol a churo Lerpwl yn Anfield.
Lerpwl sydd wedi sgorio’r nifer mwyaf o goliau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn (49), tra bod Abertawe, sydd ar waelod y tabl, wedi ildio’r un nifer.
Mae problemau amddiffynnol yr Elyrch wedi parhau o dan y prif hyfforddwr newydd, Paul Clement, ar ôl iddyn nhw golli o 4-0 yn erbyn Arsenal yn ei gêm gyntaf wrth y llyw.
Ond mae Paul Clement yn mynnu na fu’n rhaid iddo ddechrau o’r dechrau wrth ymgymryd â’r gwaith o gywiro’r camgymeriadau o dan Francesco Guidolin a Bob Bradley.
“Dw i’n meddwl bod daub eth. Yn gyntaf, siarad â’r bobol oedd wedi bod yma ers amser hir ac wedi gweld popeth dros y misoedd diwethaf, heb edrych yn ôl ymhellach na hynny mewn gwirionedd.”
Alan Curtis
Un o’r cyfryw bobol yw Alan Curtis, a gollodd ei swydd fel hyfforddwr tîm cyntaf Abertawe pan gafodd Paul Clement ei benodi.
Alan Curtis oedd wrth y llyw ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 ar y diwrnod y cafodd Paul Clement ei benodi – ond fe gollodd ei swydd ddiwedd yr wythnos honno, a chael gwybod y byddai’n gyfrifol am gadw llygad ar chwaraewyr sydd allan ar fenthyg.
Heb Alan Curtis yn ei ymyl, fe fu’n rhaid i Paul Clement addasu’n gyflym i fywyd yn Stadiwm Liberty, ac asesu’r cyfan drosto fe ei hun.
“Ac wedyn roedd y pethau ro’n i wedi gweld gyda fy llygaid i fy hun, a gwneud penderfyniadau o hynny ymlaen.”
Gwella ffitrwydd ar ganol tymor
Gydag adroddiadau nad oedd paratoadau Abertawe ar gyfer y tymor gystal ag y dylen nhw fod o dan yr Eidalwr Francesco Guidolin, fe ddaeth Bob Bradley i’r clwb gydag enw da am fod yn filitaraidd ei agwedd at ymarfer.
Ond roedd pryderon gan rai o hyd nad oedd y chwaraewyr yn ddigon ffit i bara 90 munud yn erbyn rhai o dimau mwyaf corfforol yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd Paul Clement: “Rhaid i chi drio’u cael nhw yn y cyflwr corfforol gorau posib ar gyfer gêm heb eu blino nhw, heb eu torri nhw oherwydd yn y pen draw, dydych chi ddim am iddyn nhw adael eu coesau ar y cae ymarfer.
“Fe weithion nhw’n dda iawn ddydd Mawrth a dydd Mercher. Ac wedyn fe wnaethon ni roi seibiant iddyn nhw oherwydd roedd angen hynny arnyn nhw.
“Byddwn ni’n barod ar gyfer dydd Sadwrn.”