Ashley Williams yng nghrys Abertawe (Adam Davey/PA)
Mae arweinwyr fel Ashley Williams yn bethau prin yn y byd pêl-droed, yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement.

Penderfyniad y clwb i gytuno i werthu capten Cymru i Everton oedd penderfyniad mwya’ dadleuol yr ha’ ac mae’n cael y bai’n rhannol am chwalfa’r clwb ers hynny ac fe allai sylwadau’r rheolwr gael eu gweld yn cefnogi hynny.

Gyda llai na phythefnos o’r ffenest drosglwyddo bresennol yn weddill, mae tri chwaraewr newydd wedi cyrraedd Stadiwm Liberty – yr asgellwr ymosodol Luciano Narsingh, y cefnwr chwith Martin Olsson a’r chwaraewr canol cae Tom Carroll.

Ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo eto i ddenu amddiffynnwr canol, sy’n safle allweddol o ystyried bod yr Elyrch wedi ildio 49 gôl mewn 21 o gemau – y nifer mwya’ gan unrhyw dîm yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

‘Angen arweinydd’

Pwysleisio’r angen am arweinydd ar y cae yr oedd Paul Clement yn y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm allweddol yn erbyn Lerpwl dros y Sul, ac yntau’n dal i fynnu nad yw sefyllfa Abertawe ar waelod yr Uwch Gynghrair yn anobeithiol.

Ac nid amddiffynwyr canol bob tro yw’r arweinwyr gorau, yn ôl Paul Clement: “Mae’n safle pwysig o ran ffeindio rhywun sydd â phresenoldeb a rhinweddau arweinydd o safbwynt seicoleg ac o safbwynt trefnu.

“Ond mae’r rhinweddau hynny’n bwysig mewn sawl safle, nid dim ond ymhlith amddiffynwyr. Mae’n wir am gôl-geidwad neu chwaraewr canol cae, a byddech chi’n hoffi meddwl fod gyda chi 11 o arweinwyr ar y cae.

“Yn fy marn i, mae’n fwy anodd o lawer erbyn hyn yn y byd pêl-droed i ffeindio’r math yna o bobol.”

Adnabod arweinwyr

Roedd Paul Clement yn pwysleisio bod ganddo brofiad o weithio ag arweinwyr naturiol ac amlwg, a bod ganddo fe ddigon ohonyn nhw ar draws Ewrop i dynnu ar eu profiadau.

Ymhlith yr arweinwyr y bu e’n cydweithio â nhw mae John Terry (Chelsea), Sergio Ramos (Real Madrid) a Zlatan Ibrahimovic (Paris St. Germain).

“Dw i wedi gweithio i lawer o glybiau mawr a nhw yw’r rhai sy’n sefyll allan i fi. Dydyn nhw ddim yn hawdd i’w ffeindio, y chwaraewyr yma sydd â’r hyder a’r gallu i wneud eu gwaith eu hunain ond hefyd i helpu eraill o’u cwmpas nhw.”