Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn awyddus i arwyddo’r golwr, Allan McGregor, ar fenthyg o Hull, yn ôl adroddiadau.
Yr Albanwr yw trydydd dewis Hull ar hyn o bryd.
Mae rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock yn awyddus i arwyddo golwr newydd cyn y gêm yn erbyn Burton ddydd Sadwrn.
Treuliodd Allan McGregor 11 o flynyddoedd gyda Glasgow Rangers yn Uwch Gynghrair yr Alban.