Wrecsam 1–0 North Ferriby     
                                                      

Mae Wrecsam wedi ennill dwy gêm yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl curo North Ferriby ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd un gôl yn ddigon i’w hennill i’r tîm cartref ac fe ddaeth honno o droed Izale McLeod wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae, y blaenwr yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf ers ymuno o Corby Town.

Cafodd chwarewr newydd arall, Ntumba Massanka, gyfle i ddyblu mantais y Dreigiau yn yr ail hanner ond er iddo ef fethu roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam un lle i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Carrington, Barry (Bencherif 84’), Tilt, Rooney, Rutherford (Smith 83’), Penn, White, McLeod (Massanka 68’)

Gôl: McLeod 28’

Cerdyn Melyn: Tilt 72’

.

North Ferriby

Tîm: Watson, Topliss, Gray, Armstrong (Templeton 62’), Hare, Skelton, Oliver, Fallowfield, Emerton, Thompson, Bateson (Kendall 78’)

Cardiau Melyn: Gray 19’, Hare 64’

.

Torf: 3,625