Neil Taylor (Llun: CCA 2.0)
Mae cefnwr Abertawe, Neil Taylor, yn wynebu cyfnod o’r gêm, wedi iddo dorri asgwrn yn ei foch.

Fe anafodd ei hun tra’n ymarfer â’r clwb fore Mercher.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle mae disgwyl iddo dderbyn llawdriniaeth.

Nid yw’n glir eto pryd fydd y chwaraewr mewn cyflwr ddigon da i ddychwelyd i’r cae.