Crystal Palace 1–2 Abertawe            
                                             

Cafodd Paul Clement y dechrau perffaith i’w gyfnod wrth y llyw fel rheolwr newydd Abertawe wrth i gôl hwyr Angel Rangel gipio’r tri phwynt i’r Elyrch yn erbyn Crystal Palace yn ei gêm gyntaf.

Mae’r fuddugoliaeth ar Barc Selhurst yn ddigon i godi’r tîm o Gymru oddi ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.

Tri munud yn unig o’r hanner cyntaf a oedd ar ôl pan roddodd Alfie Mawson yr ymwelwyr ar y blaen gyda pheniad crefftus o gic rydd Gylfi Sigurdsson.

Roedd hi’n ymddangos fod Palace wedi cipio pwynt pan rwydodd Wilfried Zaha gyda foli acrobataidd saith munud o ddiwedd y naw deg, ond nid felly y bu.

Aeth yr Elyrch nôl ar y blaen bum munud yn ddiweddarach pan gyfunodd yr eilyddion, Leroy Fer ac Angel Rangel, i greu’r gôl fuddugugol i’r Sbaenwr a oedd heb sgorio ers tri thymor a mwy.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe oddi ar waelod y tabl, dros Hull i’r pedwerydd safle ar bymtheg.

.

Crystal Palace

Tîm: Hennessey, Kelly (Much 90’), Tomkins, Delaney, Ward, Ledley, Puncheon, Townsend (Sako 53’), Cabaye, Zaha, Benteke (Campbell 45’)

Gôl: Zaha 83’

Cardiau Melyn: Kelly 77’, Tomkins 90’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Taylor (Rangel 71’), Fulton (Fer 69’), Ki Sung-yueng, Cork, Routledge (Dyer 80’), Llorente, Sigurdsson

Goliau: Mawson 42’, Rangel 88’

Cerdyn Melyn: Llorente 15’

.

Torf: 24,913