Chris Coleman yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Rwsia yn yr haf (llun: PA)
Mae’n ymddangos mai Chris Coleman fyddai dewis cyntaf Abertawe fel rheolwr newydd ar ôl i Bob Bradley gael y sac nos Fawrth.

Mae disgwyl y bydd y clwb yn cysylltu’n swyddogol â rheolwr tîm Cymru yn ystod y 24 awr nesaf.

Yn ôl adroddiadau, fe fu swyddogion blaenllaw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn trafod y sibrydion neithiwr, ond y gred yw eu bod yn ffyddiog o ddal gafael ar y dyn a’u harweiniodd i rowndiau cyn-derfynol Euro 2016 yn yr haf.

Roedd Chris Coleman wedi dweud ddechrau’r tymor ei fod yn ymrwymo i aros yn ei swydd tan gemau Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.

Er hyn, byddai Abertawe yn sicr o allu cynnig cyflog sylweddol uwch iddo na’r £500,000 y mae’n ei dderbyn ar hyn o bryd.

Fe fyddai hefyd yr atyniad o reoli tîm ei ddinas enedigol, a chlwb y bu’n chwarae iddo rhwng 1987 a 1991.

Ar y llaw arall, mae swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru o’r farn y gallai hyn fod yn ffactor negyddol gan ei fod wedi dweud yn y gorffennol y byddai hynny’n rhoi ei deulu sy’n byw yn y ddinas o dan ormod o bwysau.

Ymgeiswyr eraill

Gallai ei ymrwymiadau presennol fod yn rhwystr iddo hefyd o gymharu ag ymgeiswyr eraill posibl.

O’r rhain, Ryan Giggs yw’r un mwyaf amlwg, er iddo gael ei wrthod am y swydd ym mis Hydref, ac mae yntau wedi beirniadu bwrdd y clwb ers hynny.

Mae Harry Redknapp, cyn-reolwr Tottenham a West Ham, hefyd wedi dangos diddordeb yn y swydd.

Mae Abertawe yn yr 19eg safle yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, a phedwar pwynt yn brin o ddiogelwch.

Mae disgwyl i ddau hyfforddwr y tîm cyntaf, Alan Curtis a Paul Williams, fod yn gyfrifol am y gêm gartref yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn.