Abertawe 1–4 West Ham
Mae tymor trychinebus Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn parhau wedi iddynt gael cweir gan West Ham ar y Liberty brynhawn Llun.
Sgoriodd Andre Ayew yn erbyn ei gyn glwb i roi West Ham ar y blaen yn gynnar cyn i’r ymwelwyr ychwanegu tair arall wedi’r egwyl mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Aeth West Ham ar y blaen wedi dim ond deuddeg munud wedi i ymdrech Lukasz Fabianski i arbed cynnig Cheik kouyate adlamu i lwybr Ayew yn y cwrt cosbi.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond dyblodd Winston Reid y fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda pheniad o gic gornel Dimitri Payet.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i’r Hammers ddeuddeg munud o’r diwedd diolch i Michail Antonio. Ac er i Fernando Llorente dynnu un yn ôl i’r Elyrch wedi hynny fe adferodd Andy Carroll y dair gôl o fantais gyda phedwaredd yr ymwelwyr yn y munud olaf.
Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn bedwerydd ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond gall Hull godi drostynt os ydynt yn osgoi colli gartref yn erbyn Man City yn y gêm hwyr.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, van der Hoorn, Mawson, Kingsley, Cork, Britton, Fulton (Montero 45’ (Dyer 70’)) Routledge, Baston (Llorente 45’), Sigurdsson
Gôl: Llorente 89’
.
West Ham
Tîm: Randolph, Nordtveit, Reid, Ogbonna, Cresswell, Noble, Kouyate, Antonio (Feghouli 84’), Ayew (Fernandes 75’), Payet, Carroll
Goliau: Ayew 13’, Reid 50’, Antonio 79’, Carroll 90’
.
Torf: 20,757