Middlesbrough 3–0 Abertawe                  
                                    

Colli oddi cartref unwaith eto oedd hanes Abertawe wrth iddynt deithio i Stadiwm Riverside i wynebu Middlesbrough brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Negredo ddwy waith yn yr hanner cyntaf cyn i de Roon sicrhau’r tri phwynt i’r tîm cartref ar ôl troi.

Dechreuodd yr ymwelwyr o dde Cymru’n dda cyn i Alvaro Negredo roi Middlesbrough ar y blaen yn erbyn llif y chwarae o groesiad Adam Clayton wedi wedi deunaw munud.

Dyblodd y Sbaenwr y fantais o’r smotyn wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae yn dilyn trosedd Jordi Amat ar Adam Forshaw.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd buddugoliaeth Boro’n ddiogel toc cyn yr awr wedi i Marten de Roon rwydo o groesiad graenus Gaston Ramirez.

Nid yw’r Elyrch wedi ennill oddi cartref bellach ers iddynt deithio i Burnley ar Sadwrn cyntaf y tymor a gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn eu gwahanu hwy a Hull ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

.

Middlesbrough

Tîm: Valdes, Barragan, Chambers, Gibson, Fabio (Traore 87’), de Roon, Clayton, Forshaw, Ramirez (Friend 62’), Negredo, Fischer (Downing 12’)

Goliau: Negredo 18, [c.o.s.] 29’, de Roon 58’

Cerdyn Melyn: Negredo 90’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Mawson, Amat, Taylor, Britton (Fer 70’), Fulton, Barrow (Borja 59’), Sigurdsson, Routledge (Montero 77’), Llorente

.

Torf: 28,302