Mae llinell gymorth yr NSPCC, gafodd ei sefydlu yn dilyn yr helynt cam-drin plant, wedi derbyn 1,700 o alwadau mewn tair wythnos.

Cafodd y llinell gymorth ei sefydlu gan y Gymdeithas Bêl-droed ar ol i nifer o gyn-chwaraewyr ddatgelu eu bod wedi eu cam-drin pan oeddan nhw’n blant.

Ers datguddiad y cyn-chwaraewr Andy Woodward am ei gamdriniaeth wrth chwarae i Crewe yn ei ieuenctid mae llu o gyn-chwaraewyr wedi datgelu profiadau tebyg i’r wasg.

Bu 900 o alwadau i’r llinell gymorth yn y pythefnos diwethaf wnaeth arwain at gyfanswm o 1,767 erbyn Rhagfyr 13.

Ymchwiliadau ledled Prydain

Hyd yn hyn mae 83 o bobl o 98 clwb dan amheuaeth o gam-drin rhywiol ac mae’n debyg y bydd y ffigwr yn cynyddu ymhellach.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd yr Heddlu Metropolitan eu bod yn ystyried 106 achos posib o gam-drin mewn 30 clwb, yn cynnwys 4 clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Cymdeithas Bêl Droed yr Alban hefyd wedi dechrau adolygiad annibynnol er mwyn ymateb i honiadau hanesyddol  o gam-drin.

Mae llinell gymorth pêl droed yr NSPCC ar agor 24 awr y dydd: 0800 023 2642