Steve Birnbaum (Stripedtiger71 CCA 4.0)
Dyw rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley ddim yn credu bod ei gydwladwr Steve Birnbaum yn barod ar gyfer yr her o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd yr amddiffynnwr rhyngwladol yn cael ei gysylltu â throsglwyddiad i’r Uwch Gynghrair wrth i Abertawe barhau i chwilio am olynydd naturiol i’r cyn-gapten Ashley Williams.

Ac roedd Steve Birnbaum yn enw naturiol i’w grybwyll o ystyried bod un o berchnogion Abertawe, Steve Levien, yn un o berchnogion ei glwb presennol, DC United, sy’n chwarae ym myd MLS.

Ond yng nghynhadledd yr Elyrch i’r wasg ddoe, fe rodddodd y rheolwr gaead ar biser y trafod.

Cyfle

Mae’r tymor Americanaidd yn dirwyn i ben fydd y tymor newydd ddim yn dechrau tan fis Mawrth, sy’n golygu y byddai Steve Birnbaum ar gael am ddeufis i ddod i Gymru ar ôl i’r ffenest drosglwyddo ail-agor ym mis Ionawr.

Dywedodd Bob Bradley: “Dw i’n nabod Steve yn eitha da, er dw i erioed wedi ei hyfforddi fe.

“Fe ddaeth e i mewn i’r gynghrair gyda DC United, mae e wedi gwneud yn eitha da yno ac mae e wedi cael ei alw i garfan genedlaethol yr Unol Daleithiau ar wahanol adegau.”

Dim trafodaethau

Roedd Bob Bradley yn gwadu ei fod e wedi cynnal trafodaethau â’r chwaraewr.

“Dw i ddim yn gwybod lle mae e’n sefyll. Mae hi fel unrhyw sefyllfa arall o amgylch y byd. Mae gyda chi chwaraewyr ym myd MLS sy’n dod i ddiwedd eu cytundeb ar ryw adeg ac mae sïon wedyn.

“Dw i’n ei nabod e ond dyw e ddim yn chwaraewr ry’n ni wedi cysylltu â fe neu wedi ei roi ar unrhyw fath o restr fer.

“Mae’n gam mawr. Ydy e’n barod ar gyfer yr Uwch Gynghrair? Dw i ddim yn siŵr.”

Gwrthod enwi

Mae Bob Bradley yn gwrthod enwi chwaraewyr yr hoffai eu denu i Stadiwm Liberty pan fydd y ffenest drosglwyddo’n ail-agor.

Ond fe fydd e’n derbyn cymorth un o gyn-reolwr yr Elyrch, Brian Flynn, sydd wedi dychwelyd i Stadiwm Liberty yn sgowt.

Roedd e’n sgowt gydag Everton gydag un arall o gyn-reolwyr Abertawe, Roberto Martinez.