Ben Woodburn (Llun o wefan clwb pêl-droed Lerpwl)
Cymro 17 oed yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio gôl i dîm pêl-droed Lerpwl, gan dorri record Michael Owen.

Mae Ben Woodburn, sy’n hanu o Gaer, 98 diwrnod yn iau nag oedd ymosodwr rhyngwladol Lloegr yn cyflawni’r un gamp.

Fe sgoriodd ar ôl 81 o funudau wrth i Lerpwl guro Leeds o 2-0 yn rownd wyth olaf Cwpan yr EFL yn Anfield nos Fawrth.

Hon oedd ail gêm Ben Woodburn i’r clwb ar ôl iddo chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn.

Ond mae rheolwr Lerpwl, Jürgen Klopp yn dweud bod angen bod yn wyliadwrus rhag rhoi gormod o bwysau arno mor gynnar yn ei yrfa.

“R’yn ni’n gwybod beth all Ben ei wneud. Fy mhrif swydd yw helpu’r bois hyn i fod ar eu gorau,” meddai.

“Mae tipyn o bethau i’w gwneud, yn enwedig wrth gadw’r cyhoedd draw cyhyd â phosib. Mae hynny’n beth eithaf anodd i’w wneud.

“Ond byddwn ni ond yn dod ag e gyda ni pan fyddwn ni am ei ddefnyddio fe. Mae hynny’n golygu pan fod e ar y cae fod rhwydd hynt iddo fe sgorio goliau.”

Mae Ben Woodburn yn gymwys i chwarae dros Gymru neu Loegr, ac fe fydd cyfle cyn gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Fawrth 24 i blesio Chris Coleman.