Fe fydd Gareth Bale yn cael llawdriniaeth ar ei ffêr a allai olygu ei fod yn methu chwarae am dri mis, yn ôl adroddiadau.

Roedd yn chwarae i’w glwb Real Madrid mewn gêm Cynghrair y Pencampwr yn erbyn Sporting Lisbon nos Fawrth pan gafodd ei dynnu oddi ar y cae ar ôl awr o chwarae gydag anaf i’w ffêr dde.

Bydd y chwaraewr 27 oed yn derbyn llawdriniaeth yn Llundain ddydd Mawrth nesa’ (Tachwedd 29).

Er nad oes cadarnhad o ba mor hir y bydd seren Cymru allan o’r gêm, mae adroddiadau o Sbaen yn awgrymu y gall fod yn hyd at dri mis. Mae hynny’n ofid i gefnogwyr Cymru, sydd â’i gêm nesa’ yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, ym mis Mawrth.

Mae Cymru yn chwarae Gweriniaeth Iwerddon union bedwar mis i heddiw.