Mae asiantaeth pêl-droed FIFA wedi cychwyn camau disgyblu yn erbyn tîm Cymru ar ôl dadl ynglŷn â gwisgo pabïau coch ar eu crysau ar drothwy penwythnos Sul y Cofio.

Roedd Cymdeithas Bêl Droed Cymru eisiau rhoi symbol y pabi ar eu crysau yn y gêm yn erbyn Serbia ar Dachwedd 12, i gofio milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond yn lle hynny, fe gafodd y symbol o’r pabi ei ddangos cyn y gêm, gan gynnwys mewn un eisteddle pan wnaeth cefnogwyr ddal cardiau yn yr awyr i ddangos patrwm y blodyn.

Roedd FIFA’n dweud bod y pabi yn “symbol gwleidyddol” ac nad yw’r corff yn caniatáu hybu arwyddion o’r fath.

Mae hefyd yn cymryd camau disgyblu yn erbyn Gogledd Iwerddon am fater cysylltiedig, ac eisoes wedi cychwyn erlyn Lloegr a’r Alban – oedd wedi mynd yn groes i gyngor a dangos y symbol ar eu crysau pan wnaethon nhw wynebu ei gilydd ar 11 Tachwedd.