Joe Allen (Llun: CBDC)
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey ymhlith y chwaraewyr yn nhîm Cymru sydd wedi ysbrydoli perfformiadau diweddar Joe Allen i Stoke, yn ôl y chwaraewr ei hun.

Mae Joe Allen wedi sgorio pedair gôl i Stoke y tymor hwn ers i Mark Hughes ei symud i safle mwy ymsodol ar y cae, ac fe greodd ddwy gôl i Wilfried Bony wrth i Stoke guro Abertawe o 3-1 nos Lun.

Symudodd y Cymro i Stadiwm Bet365 o Lerpwl am £13.5 miliwn dros yr haf yn dilyn ymgyrch Cymru yn Ewro 2016.

“Gyda Chymru mae gyda chi’r fath bobol â Gaz [Gareth Bale] ac Aaron [Ramsey] ac mae cymaint y gallwch chi ei ddysgu ganddyn nhw,” meddai Joe Allen.

“A hefyd mae yna chwaraewyr ro’n i’n ffodus o gael chwarae gyda nhw yn Lerpwl. Mae chwaraewyr fel Coutinho a Lallana wedi chwarae mewn safle tebyg i’r un dw i’n chwarae ynddo nawr.

“Rydych chi’n ceisio dysgu ambell beth ganddyn nhw, a dyna dw i wedi ceisio’i wneud.”

Mwynhau yr her yn Stoke

Mae Joe Allen bellach yn chwarae ochr yn ochr â Marko Arnautovic a Xherdan Shaqiri yn Stoke, ac mae’n cyfaddef ei fod yn mwynhau’r her.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn Lerpwl ac fe ddysgais i dipyn ond roedd hi’n bryd symud ymlaen,” meddai. “Mae cymaint o ansawdd mewn tîm felly ac mae’n rhaid i chi ddod o hyd i her newydd.

“Ro’n i’n teimlo’n gyffrous o gael dod i glwb fel Stoke a chystadlu am le ond ro’n i’n hyderus hefyd fod gyda fi dipyn i’w gynnig i’r tîm hwn ac y gallwn i fod yn chwaraewr pwysig iddyn nhw.

“Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth pan fo gyda chi fwy o gyfrifoldebau a rhwydd hynt i fynegi eich hun yn fwy.”

Mae Joe Allen hefyd yn hyderus y gall barhau i sgorio ac nad rhywbeth dros dro yw ei goliau diweddar.