Casnewydd 2–2 Barnet          
                                                          

Cipiodd Casnewydd bwynt gyda chic o’r smotyn hwyr wrth i Barnet ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Er i’r tîm cartref fod ar y blaen ar yr egwyl fe darodd John Akinde nôl gyda dwy gôl mewn deg munud i’r ymwelwyr ac roedd angen cic o’r smotyn hwyr Sean Rigg i achub pwynt i’r Cymry.

Peniodd Ben Tozer Gasnewydd ar y blaen o groesiad Josh Sheehan ddeuddeg munud cyn yr egwyl ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Arhosodd y tîm cartref ar y blaen tan chwarter awr o’r diwedd cyn i Akinde dynnu un yn ôl gyda’i ben a rhoi ei dîm ar y blaen gyda’i droed chwith.

Dau funud o’r naw deg a oedd yn weddill pan gafodd Jennison Myrie-Williams ei lorio yn y cwrt cosbi gan Jean-Louis Akpa-Akpro. Pwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn a sgoriodd Rigg o ddeuddeg llath i achub pwynt i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran gyda dim ond wyth pwynt o dair gêm ar ddeg.

.

Casnewydd

Tîm: Bittner, Bignot (Barnum-Bobb 87’), Bennett, Jones, Cameron, Grego-Cox (Myrie-Williams 82’), Tozer, Randall (Green 77’), Sheehan, Rigg, Healey

Goliau: Tozer 33’, Rigg [c.o.s.] 89’

Cardiau Melyn: Randall 18’, Tozer 62’, Myrie-Williams 90’

.

Barnet

Tîm: Vickers, Hoyte (Watson 16’), B’Gala (Akpa-Akpro 59’), Nelson, Muggleton, Vihete, Sesay, Champion, Weston (Batt 45’), Nicholls, Akinde

Goliau: Akinde 76’, 85’

Cardiau Melyn: N’Gala 58’, Nicholls 68’, Akinde 81

.

Torf: 2,381