Burton 2–0 Caerdydd   
                                                                     

Mae tymor trychinebus Caerdydd yn parhau wedi iddynt golli eto yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn, oddi cartref yn erbyn Burton yn Stadiwm Pirelli y tro hwn.

Rhoddodd Jackson Irving y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Lucas Atkins ychwanegu’r ail yn yr ail hanner.

Aeth Burton ar y blaen wedi ychydig dros ddeg munud o chwarae wrth i Irving orffen yn dda gydag ergyd gadarn i’r gornel isaf wedi i Jamie Ward benio’r bêl i’w lwybr.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond dyblodd y tîm cartref eu mantais yn gynnar yn yr ail gyfnod. Rhoddodd Kyle McFadzean ei ben i gic rydd Matthew Palmer a gwyrodd Atkins y bêl i’r gôl gyda’i ben yntau.

Peter Wittingham a ddaeth agosaf at dynnu un yn nôl i Gaerdydd ond cafodd ei atal gan arbediad da Jon McLaughlin wrth i’r tîm cartref ddal eu gafael yn gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn ail o waelod tabl y Bencampwriaeth ac mae dyfodol Paul Trollope wrth y llyw yn ymddangos yn fwyfwy bregus.

.

Burton

Tîm: McLaughlin, Naylor, McFadzean, Turner, Akins, Choudhury (Mousinho 90’), Palmer, Irvine, Dyer, O’Grady (Flanagan 77’), Ward (Miller 66’)

Goliau: Irvine 12’, Atkins 49’

Cerdyn Melyn: Irvine 84’

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, John, Wittingham, O’Keefe, Noone, Immers (Gounongbe 56’), Ralls (Harris 55’), Lambert (Zohore 78’)

.

Torf: 4,426