Chris Coleman (llun: Jamie Thomas)
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi mynegi ei siom fod Aaron Ramsey am golli rhagor o gêmau rhyngwladol pwysig.

Mae wedi dweud nad oes ganddo syniad pryd y bydd y chwaraewr canol cae’n ôl wedi iddo fethu â chwblhau sesiwn hyfforddi gyda’i glwb, Arsenal, wythnos ddiwetha’.

Mae’n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd Ramsey’n holliach mewn pryd i wynebu Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Tachwedd ar ôl anafu llinyn y gar pan chwaraeodd Arsenal yn erbyn Lerpwl yn nechrau Medi.

Fe wnaeth rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, gyfadde’ wedyn ei fod yn “gwthio’r” chwaraewr yn y sesiwn ymarfer.

‘Siom enfawr’

Meddai Chris Coleman: “Mae’n siom enfawr na fydd gennym ni Aaron ar gyfer y ddwy gêm. Bydd hynny’n 30 y cant o’n hymgyrch heb un o’n chwaraewyr gorau.

“Os ydych chi’n cymryd rhywun cystal ag e mas o unrhyw dîm, mae’n mynd i gael effaith.”

Yn ei sylwadau, fe awgrymodd fod angen gofyn cwestiynau pam fod yr anafiadau wedi digwydd.

“Rwy’n credu ein bod i gyd wedi ein synnu braidd ei fod o wedi chwarae mor gynnar. Ond  chwaraewr Arsenal yw e a phenderfyniad Arsenal yw e os ydyn nhw eisiau ei chwarae. Nhw sy’n talu ei gyflog, a dyna lle mae ei gytundeb.”