Caerdydd 0–2 Derby          
                                                                

Colli fu hanes Caerdydd eto wrth i Derby ymweld â Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl ail hanner wrth i’r Adar Gleision lithro i safleoedd y gwymp.

Caerdydd a gafodd y gorau o hanner cyntaf gwael ac roedd angen arbediad da gan Scott Carson i atal Sean Morrison rhag penio’r tîm cartref ar y blaen.

Roedd Derby yn well wedi’r egwyl ac roeddynt ar y blaen o fewn deg munud diolch i ergyd isel gywir Tom Ince.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r ymwelwyr ddeg munud o ddiwedd y naw deg wedi i Matt Connolly lorio Nick Blackman yn y cwrt cosbi. Anfonwyd Connolly oddi ar y cae a rhwydodd Blackman o ddeuddeg llath.

Mae’r canlyniad yn codi Derby dros Gaerdydd, wrth i’r Adar Gleision lithro i’r trydydd safle ar hugain yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Richards, Morrison, Connolly, John, Wittingham, O’Keefe, Noone, Immers (Ecuele Manga 85’), Ralls (Harris 59’), Lambert (Zohore 13’)

Cerdyn Melyn: Wittingham 33’

Cerdyn Coch: Connolly 80’

.

Derby

Tîm: Carson, Christie, Keogh, Pearce, Lowe, Hughes, Johnson, Butterfield, Ince (Russell 84’), Vydra (Blackman 77’), Anya (Weimann 90+5’)

Goliau: Ince 55’, Blackman [c.o.s.] 80’

Cardiau Melyn: Johnson 90+2’, Butterfield 52’

.

Torf: 14,131