Casnewydd 1–2 Caergrawnt          
                                                

Colli fu hanes Casnewydd wrth i Gaergrawnt ymweld â Rodney Parade yn y frwydr tua gwaelodion yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Rhys Healey Gasnewydd ar y blaen yn erbyn y tîm a ddechreuodd y dydd ar waelod y tabl ond yn ôl y daeth Caergrawnt gan gipio’r tri phywnt gyda dwy gôl yn yr ail hanner.

Deg munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd cyn chwaraewr Cei Connah, Healey, y tîm cartref ar y blaen ac felly yr arhosoddd hi tan hanner amser.

Roedd Adam McGurk eisoes wedi taro’r pren gyda chic rydd i’r ymwelwyr cyn i Uche Ikpeazu unioni pethau wedi pêl hir Medi Elito.

A sicrhaodd Caergrawnt y fuddugoliaeth saith munud o ddiwedd y naw deg pan rwydodd Luke Berry gydag ergyd gadarn wedi i bêl rydd dasgu iddo yn y cwrt cosbi.

Mae Caergrawnt yn aros ar waelod y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu hwy a Chasnewydd sydd bellach yn safleoedd y gwymp hefyd, yn ail o’r gwaelod.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bignot, Cameron, Bennett, Butler, Grego-Cox, Tozer, Randall (Sheehan 79’), Rigg, Healey, Parkin (Jackson 70’)

Gôl: Healey 10’

Cardiau Melyn: Tozer 58’, Grego-Cox 74’

.

Caergrawnt

Tîm: Norris, Halliday, Legge, Roberts, Dunk, Elito, Berry, Clark, Gosling (Taylor 45’), Williamson (Ikpeazu 45’ (Coulson 90+7’)), McGurk

Goliau: Ikpeazu 61’, Berry 83’

Cardiau Melyn: McGurk 58’, Legge 60’, Clark 81’

.

Torf: 2,225