Abertawe 1–3 Man City       
                                                            

Collodd Abertawe yn erbyn Man City ar y Liberty am yr eildro mewn pedwar diwrnod brynhawn Sadwrn.

Roeddynt eisoes wedi colli yn erbyn tîm Pep Guardiola yng Nghwpan y Gynghrair nos Fercher cyn colli yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn y gynghrair dridiau’n ddiweddarach.

Aeth Man City ar y blaen wedi dim ond naw munud, Sergio Aguero yn creu lle iddo’i hun gyda chyffyrddiad cyntaf gwych cyn gorffen yn daclus wedi gwaith da Bacary Sagna ar y dde.

Cafwyd ymateb da gan yr Elyrch ac roeddynt yn gyfartal o fewn pedwar munud diolch i Fernando Llorente a’i gôl gyntaf dros y clwb, y Sbaenwr yn rhwydo gydag ergyd ffyrnig yn dilyn pêl dda Gylfi Sigurdsson iddo.

Abertawe a oedd y tîm gorau o hynny tan hanner amser ond methodd gwŷr Guidolin a manteisio a chawsant eu cosbi wrth i Man City ymateb yn gryf yn yr ail hanner.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ugain munud wedi troi gyda chic o’r smotyn chwareus Aguero yn dilyn trosedd honedig Mike van der Hoorn ar Kevin De Bruyne.

Dybodd Raheem Sterling y fantais gyda gôl dda chwarter awr o’r diwedd, yn curo’i ddyn yn y cwrt cosbi cyn gorffen yn daclus heibio i Lukasz Fabianski.

Mae’r canlyniad yn cadw City ar y brig ond mae Abertawe ar y llaw arall yn llithro i’r unfed safle ar bymtheg.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, van der Hoorn, Amat, Naughton, Britton (Borja 79’), Cork (Ki Sung-yueng 73’), Sigurdsson, Fer, Routledge (Barrow 73’), Llorente

Gôl: Llorente 13’

Cardiau Melyn: Amat 58’, van der Hoorn 64’

.

Man City

Tîm: Bravo, Sagna (Zabaleta 78’), Otamendi, Stones, Kolarov, Fernandinho, Gundogan (Fernando 68’), Silva, De Bruyne (Navas 81’), Sterling, Aguero

Goliau: Aguero 9’, [c.o.s.] 65’, Sterling 77’

Cardiau Melyn: Sagna 31’, Fernandinho 37’, Sterling 77’, Kolarov 87’

.

Torf: 20,789