Fe wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru guro Israel yn gyffyrddus gyda sgôr o 3-0 mewn gem ragbrofol Ewro 2017 neithiwr.

Er nad oes gan y merched siawns o ddal y ddau geffyl blaen yn Grŵp 8 – Norwy ac Awstria – roedden nhw’n rheoli’r gêm yn erbyn Israel, ar ôl i Helen Ward sgorio am y tro cyntaf yn yr 16eg munud.

Fe wnaeth streiciwr Reading ychwanegu at y cyfanswm goliau 16 munud yn ddiweddarach gyda’r eilydd Charlie Estcourt yn ei gwneud hi’n 3-0 ychydig cyn yr awr.

Bydd yr ymgyrch i ennill lle yn gemau Ewro 2017 yn dod i ben gyda gem gartref yn erbyn Awstria ddydd Mawrth.