Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael gwybod pwy fyddan nhw’n herio pryd yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Ar ddiwrnod cynta’r tymor ar Awst 13, byddan nhw’n teithio i Burnley, tra byddan nhw’n croesawu Hull i’r Liberty ar Awst 20 ar gyfer eu gêm gartref gyntaf.

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, byddan nhw’n croesawu West Ham i’r Liberty ar Ddydd San Steffan, ac yn croesawu Bournemouth i Abertawe ar Nos Galan.

Byddan nhw’n herio’r pencampwyr Caerlŷr oddi cartref ar Awst 27 ac yn eu croesawu i’r Liberty ar Chwefror 11.

Bydd y tymor yn gorffen gyda gêm gartref yn erbyn West Brom ar Fai 21, ar ôl chwarae eu gêm oddi cartref olaf ar Fai 13 yn erbyn Sunderland.

Mae modd gweld y rhestr gemau yn llawn ar wefan Abertawe.

Cefndir

Y tymor diwethaf, dechreuodd Abertawe eu hymgyrch yn yr Uwch Gynghrair gyda gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn Chelsea, a hwn fydd tymor llawn cynta’r rheolwr Francesco Guidolin wrth y llyw.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ar benwythnos Awst 13-14, ac roedd dyfalu y gallai mwy o gemau gael eu cynnal ar nos Wener.

Mae’r tymor yn dechrau wythnos yn hwyrach nag arfer eleni oherwydd Ewro 2016, sy’n golygu bod y diwrnod cyntaf yn cwympo ar Sadwrn Sblennydd y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.

Mae mwy o arian yn y fantol i’r clybiau y tymor hwn gan fod Sky Sports a BT Sport wedi talu £5.136 biliwn – y swm mwyaf erioed – i ddarlledu gemau’r Uwch Gynghrair.

Caerlŷr oedd y pencampwyr y tymor diwethaf, tra bod Burnley, Hull a Middlesbrough wedi codi o’r Bencampwriaeth.

Bydd rhestr gemau’r Bencampwriaeth yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher nesaf, Mehefin 22.