Hal Robson-Kanu - sgoriwr y gol i ennill y gem (Joe Giddens/PA)
Cymru 2 Slofacia 1

Fe gymerodd Cymru gam anferth at gyrraedd y cam nesa’ ym Ewro 2016 gyda buddugoliaeth tros Slofacia.

Fe symudodd y pendil y naill ffordd a’r llall fwy nag unwaith cyn i’r eilydd Hal Robson-Kanu ei seglo hi gyda naw munud i fynd.

Deg munud gymerodd hi i Gymru sgorio eu gôl gynta’ erioed yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth Ewropeaidd a Gareth Bale, wrth gwrs, oedd y sgoriwr.

Am gyfnod yn yr ail hanner, roedd hi’n edrych y gallai’r holl ddathlu fod yn ofer wrth i Slofacia sgorio a bygwth sawl gwaith mewn cyfnod pwerus o ddeg munud.

Ond, ar ôl dod trwy’r storm, fe setlodd Cymru i’r patrwm oedd wedi gweithio trwy weddill y gêm, gan ddilyn pob pêl a phwyso ar feddiant Slofacia.

Roedd y ddau eilydd hefyd yn allweddol, Duda yn sgorio i Slofacia ar ôl i Mak ac yntau gael gormod o le ar fin y bocs.

Wedyn Hal Robson-Kanu’n gorffen symudiad da rhwng Joe Ledley ac Aaron Ramsey. Cic hosan oedd hi gan ymosodwr Reading ond roedd hi’n ddigon i anfon y golgeidwar i’r cyfeiriad anghywir.

Y gôl gynta’

Fe gafodd Johnny Williams ei faglu rhyw 25 llath o’r gôl ychydig i’r dde o’r canol – perffaith ar gyfer troed chwith ymosodwr Real Madrid.

Doedd hi ddim yn un o giciau rhydd gorau Bale ond fe symudodd ddigon yn yr awyr i fynd tros y mur a churo’r gol-geidwad.

Am weddill yr hanner, Cymru oedd yn rheoli er mai Slofacia gafodd fwya’ o’r meddiant – roedd y Cymry’n dilyn pob pêl ac yn ei hennill yn ôl yn gyson.

Yr hanner cynta’

Dwywaith y daeth Slofacia’n agos at sgorio – un waith ar ôl llai na phedwar munud pan glirioedd Ben Davies oddi ar y lein ac wedyn gyda llai na munud ar ôl yn yr hanner pan sleifioddj yr amddiffynnwr Martin Skrtel i’r bocs ar ei ben ei hun ond methu â chyrraedd croes beryglus.

Er hynny, roedd Skrtel yn lwcus i beidio ag ildio cic o’r smotyn wrth roi ei benelin yng ngwyneb Johnny Williams yn y bocs.

Erbyn hynny, roedd Calon Lân a  Hen Wlad fy Nhadau’n atseinio ymhlith y miloedd o gefnogwyr o Gymru ac roedd y chwaraewyr yn gwthio Slofacia’n ôl, hyd yn oed heb y bêl.

Yr ail hanner

Mak oedd chwaraewr allweddol Slofacia wrth iddyn nhw fygwth yn galed am ddeg munud.

A hyd yn oed ar ôl ail gôl Cymru, roedd yna un bygythiad mawr wrth i’r eilydd arall, Nemec, daro’r postyn.

Ond roedd yna gyfleoedd da hefyd i Aaron Ramsey, ddwy waith – er iddo weithio’n rhyfeddol o galed, doedd o ddim digon siarp o flaen y gôl.

Ond, gyda thri phwynt yn ddiogel, fe allai un arall fod yn ddigon i wneud yn hollol siŵr fod Cymru yn yn y rowndiau nesa’.