Y freuddwyd ar ben i dîm Jayne Ludlow
Mae ymgais tîm pêl-droed merched Cymru i efelychu’r dynion a chyrraedd Pencampwriaethau Ewrop ar ben ar ôl iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn Norwy yng Nghasnewydd nos Fawrth.

Ar ôl bod yn gyfartal ddi-sgôr ar yr hanner, daeth dwy gôl yn yr ail hanner gan Ada Hegerberg – y naill oddi ar ei phen a’r llall yn ergyd o bell.

Roedd hi’n noson siomedig i’r tîm ac i Natasha Harding ar achlysur ei hanner canfed cap dros Gymru.

Y tro cyntaf i’r ddau dîm herio’i gilydd fis Hydref diwethaf, collodd Cymru o 4-0.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n aros yn drydydd yn eu grŵp y tu ôl i Norwy ac Awstria – dim ond dau dîm all gyrraedd  y gystadleuaeth yn awtomatig a does gan Gymru ddim digon o bwyntiau ar ôl i allu symud yn uwch.